Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15

Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Jwdas Macabeus yn Gorchfygu Lysias

1. Yr oedd Lysias, dirprwy a châr y brenin a phrif weinidog y llywodraeth, yn ddig iawn o achos y digwyddiadau hyn, ac yn fuan iawn wedyn

2. fe gasglodd ynghyd tua phedwar ugain mil o wŷr, a'r holl wŷr meirch, a chychwyn yn erbyn yr Iddewon. Ei fwriad oedd troi'r ddinas yn drigfan i Roegiaid,

3. trethu'r deml yn yr un modd â holl gysegrleoedd eraill y Cenhedloedd, a gwneud yr archoffeiriadaeth yn swydd i'w gwerthu'n flynyddol.

4. Ni wnaeth unrhyw gyfrif o nerth Duw, gan gymaint ei falchder yn ei ddegau o filoedd o wŷr traed, ei filoedd o wŷr meirch, a'i bedwar ugain eliffant.

5. Daeth i mewn i Jwdea ac i gyffiniau Bethswra, lle caerog tua deg cilomedr ar hugain o Jerwsalem, a'i osod dan warchae cyfyng.

6. Pan glywodd Macabeus a'i wŷr fod Lysias yn gwarchae ar y caerau, dechreusant hwy a'r holl bobl alarnadu ac wylofain ac ymbil ar yr Arglwydd iddo anfon angel da i achub Israel.

7. Ond Macabeus ei hun a gododd ei arfau gyntaf, a chymell y lleill i fynd gydag ef i gynorthwyo'u brodyr, er gwaethaf y peryglon ofnadwy; ac fel un gŵr rhuthrasant allan yn frwd.

8. A hwythau'n dal yno, yng nghyffiniau Jerwsalem, fe welwyd marchog mewn gwisg wen yn eu harwain ac yn chwifio arfau aur.

9. Ag un llais bendithiodd pawb y Duw trugarog, ac ymwroli nes eu bod yn barod i ymosod, nid ar ddynion yn unig ond ar y bwystfilod ffyrnicaf ac ar furiau haearn.

10. Aethant yn eu blaenau yn arfog, gyda'r marchog nefol yr oedd yr Arglwydd o'i drugaredd wedi ei anfon i ymladd o'u plaid.

11. Fel llewod, llamasant ar y gelyn a gadael un fil ar ddeg ohonynt yn gelain, ynghyd â mil a chwe chant o'r gwŷr meirch. Gyrasant y lleill i gyd ar ffo,

12. y mwyafrif ohonynt wedi eu clwyfo ac yn dianc am eu bywydau heb eu harfau; a thrwy ffoi fel llwfrgi yr achubodd Lysias yntau ei groen.

Lysias yn Gwneud Cytundeb â'r Iddewon

13. Ond nid oedd yn ddyn ynfyd. Wedi pwyso a mesur wrtho'i hun y darostyngiad a gawsai, a dod i'r casgliad fod yr Hebreaid yn anorchfygol am fod y Duw nerthol yn ymladd o'u plaid,

14. anfonodd atynt a'u perswadio i wneud cytundeb ar delerau hollol gyfiawn; a dywedodd y byddai trwy ei berswâd yn gorfodi'r brenin i fod yn gyfaill iddynt.

15. Yn ei ofal am les y bobl, derbyniodd Macabeus bob un o argymhellion Lysias; oherwydd yr oedd y brenin wedi cydsynio â phopeth a fynnodd Macabeus ar ran yr Iddewon yn ei lythyrau at Lysias.

Llythyr Lysias at yr Iddewon

16. Yr oedd cynnwys y llythyrau a ysgrifennwyd gan Lysias at yr Iddewon fel a ganlyn:“Lysias at bobl yr Iddewon, cyfarchion.

17. Y mae eich cynrychiolwyr Ioan ac Absalom wedi cyflwyno imi y ddogfen a welwch isod ac wedi ceisio gennyf gymeradwyo'r hyn a fynegwyd ynddi.

18. Yr wyf wedi esbonio i'r brenin bopeth yr oedd yn rhaid ei gyfeirio ato ef; ac y mae ef wedi cydsynio â phopeth hyd y gallai.

19. Gan hynny, os pery eich ewyllys da tuag at y llywodraeth, fe geisiaf finnau hyrwyddo eich buddiannau yn y dyfodol hefyd.

20. Ynglŷn â'r materion hyn a'r manylion pellach: yr wyf wedi gorchymyn i'r dynion hyn a'm cynrychiolwyr innau eu trafod gyda chwi.

21. Ffarwel. Y pedwerydd ar hugain o fis Dioscorus yn y flwyddyn 148.”

Llythyr y Brenin at Lysias

22. Dyma gynnwys llythyr y brenin:“Y Brenin Antiochus at Lysias ei frawd, cyfarchion.

23. Gan fod ein tad wedi mynd i blith y duwiau, ein dymuniad yw i ddeiliaid ein teyrnas gael dilyn eu dibenion eu hunain heb unrhyw darfu arnynt.

24. Yr ydym wedi clywed nad yw'r Iddewon yn dymuno newid i'r ffyrdd Helenistaidd o fyw fel y mynnai fy nhad, ond ei bod yn well ganddynt eu ffyrdd eu hunain, a'u bod yn gofyn caniatâd i ddilyn eu cyfreithiau eu hunain.

25. Gan hynny, yn unol â'n dewis nad oes tarfu i fod ar y genedl hon mwy na'r un arall, ein dyfarniad yw bod eu teml i gael ei hadfer iddynt a'u bod i fyw yn ôl arferion eu hynafiaid.

26. Bydd gystal, felly, ag anfon fy nyfarniad atynt a rhoi dy law dde iddynt, fel o wybod beth yw fy mwriad y gallant godi eu calonnau a byw'n ddedwydd yn eu gofal am eu dibenion eu hunain.”

Llythyr y Brenin at y Genedl

27. Yr oedd llythyr y brenin at y genedl fel a ganlyn:“Y Brenin Antiochus at senedd yr Iddewon ac at weddill yr Iddewon, cyfarchion.

28. Dymunwn ffyniant i chwi. Yr ydym ninnau'n iach.

29. Y mae Menelaus wedi ein hysbysu am eich dymuniad i ddychwelyd i'ch cartrefi eich hunain.

30. Gan hynny, bydd amnest i unrhyw un fydd wedi dychwelyd erbyn y degfed ar hugain o fis Xanthicus.

31. Y mae caniatâd i'r Iddewon arfer eu bwydydd a'u cyfreithiau eu hunain megis cynt, ac nid aflonyddir ar neb ohonynt mewn unrhyw fodd o achos dim a wnaethpwyd mewn anwybodaeth.

32. Yr wyf hefyd yn anfon Menelaus i'ch calonogi.

33. Ffarwel. Y pymthegfed o fis Xanthicus, yn y flwyddyn 148.”

Llythyr y Rhufeiniaid at yr Iddewon

34. Anfonodd y Rhufeiniaid hefyd y llythyr canlynol atynt:“Cwintus Memius a Titus Manius, llysgenhadon y Rhufeiniaid, at bobl yr Iddewon, cyfarchion.

35. Ynglŷn â'r cytundebau â chwi a wnaethpwyd gan Lysias, câr y brenin, yr ydym ninnau hefyd yn eu cymeradwyo.

36. Ond am y materion y barnodd ef fod yn rhaid eu cyfeirio at y brenin, ystyriwch hwy'n ofalus ac yna anfonwch rywun atom yn ddi-oed, fel y gallwn eu cyflwyno mewn modd a fydd yn fuddiol i chwi; oherwydd yr ydym yn cychwyn am Antiochia.

37. Brysiwch, gan hynny, i anfon rhywrai atom, i ninnau gael gwybod beth yw eich barn.

38. Ffarwel. Y pymthegfed o fis Xanthicus yn y flwyddyn 148.”