2 Macabeaid 4:36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Pan ddychwelodd y brenin o ranbarthau Cilicia, anfonodd Iddewon y ddinas ato ynglŷn â llofruddio disynnwyr Onias, a hynny gyda chefnogaeth y Groegiaid, a oedd hefyd yn ffieiddio'r anfadwaith.