Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 8 beibl.net 2015 (BNET)

Gosod y Lampau

1. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Dywed wrth Aaron, ‘Pan fyddi'n gosod y lampau yn eu lle, gwna'n siŵr fod y saith lamp yn taflu eu golau o flaen y menora.’”

3. A dyma Aaron yn gwneud hynny. Dyma fe'n gosod y lampau fel eu bod yn taflu eu golau o flaen y menora, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

4. Gwaith morthwyl oedd y menora – aur wedi ei guro. Roedd yn waith morthwyl o'i goes i'w betalau. Cafodd ei wneud i'r union batrwm roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddangos i Moses.

Puro a chysegru'r Lefiaid

5. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

6. “Rwyt i gymryd y Lefiaid o blith pobl Israel a mynd trwy'r ddefod o'i puro nhw.

7. A dyma sut mae gwneud hynny: Rwyt i daenellu dŵr y puro arnyn nhw. Wedyn rhaid iddyn nhw siafio eu corff i gyd, golchi eu dillad, ac ymolchi.

8. Wedyn maen nhw i gymryd tarw ifanc, gyda'i offrwm o rawn (sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd). Yna cymryd tarw ifanc arall yn offrwm puro.

9. Wedyn rwyt i fynd â'r Lefiaid i sefyll o flaen Pabell Presenoldeb Duw, a casglu pobl Israel i gyd at ei gilydd yno.

10. Yna mae'r bobl i osod eu dwylo ar y Lefiaid tra maen nhw'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.

11. Wedyn mae Aaron i gyflwyno'r Lefiaid i'r ARGLWYDD fel offrwm sbesial gan bobl Israel, i'w cysegru nhw i waith yr ARGLWYDD.

12. Wedyn bydd y Lefiaid yn gosod eu dwylo ar ben y ddau darw ifanc. Bydd un yn offrwm puro, a'r llall yn cael ei offrymu i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, i wneud pethau'n iawn rhwng Duw a'r Lefiaid.

13. Yna mae'r Lefiaid i sefyll o flaen Aaron a'i feibion, i'w cyflwyno nhw'n offrwm sbesial i'r ARGLWYDD.

14. A dyna sut mae'r Lefiaid i gael eu gosod ar wahân i weddill pobl Israel. Fi fydd piau'r Lefiaid.”

15. “Bydd y Lefiaid wedyn yn mynd i wneud eu gwaith yn y Tabernacl, ar ôl cael eu puro a'i cyflwyno'n offrwm sbesial i mi.

16. Maen nhw wedi cael eu rhoi i weithio i mi yn unig. Dw i'n eu cymryd nhw yn lle meibion hynaf pobl Israel.

17. Fi piau'r meibion hynaf i gyd, a hefyd pob anifail cyntaf i gael ei eni. Ro'n i wedi eu cysegru nhw i mi fy hun pan wnes i ladd pob mab ac anifail cyntaf i gael ei eni yng ngwlad yr Aifft.

18. Ond dw i wedi cymryd y Lefiaid yn lle meibion hynaf pobl Israel.

19. A dw i wedi rhoi y Lefiaid i Aaron a'i feibion i weithio ar ran pobl Israel yn y Tabernacl. Hefyd i wneud pethau'n iawn rhwng Duw a phobl Israel, fel bod dim pla yn taro pobl Israel pan maen nhw'n mynd yn agos at y cysegr.”

20. Felly dyma Moses ac Aaron a phobl Israel i gyd yn cysegru'r Lefiaid. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

21. Dyma'r Lefiaid yn mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, a golchi eu dillad. Yna dyma Aaron yn eu cyflwyno nhw yn offrwm sbesial i'r ARGLWYDD. Ac wedyn dyma fe'n mynd trwy'r ddefod o wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw, er mwyn ei puro nhw.

22. Wedi hynny, dyma'r Lefiaid yn mynd i'r Tabernacl i wneud eu gwaith, yn helpu Aaron a'i feibion. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

23. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

24. “Dyma fydd y drefn gyda'r Lefiaid: Maen nhw'n cael dechrau gweithio yn y Tabernacl yn ddau ddeg pump mlwydd oed,

25. a rhaid iddyn nhw ymddeol pan fyddan nhw'n bum deg oed.

26. Ar ôl ymddeol maen nhw'n cael dal i helpu'r Lefiaid eraill pan mae angen, ond fyddan nhw ddim yn gwneud y gwaith eu hunain. Dyna fydd y drefn gyda gwaith y Lefiaid.”