Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 10 beibl.net 2015 (BNET)

Yr Utgyrn Arian

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Gwnewch ddau utgorn arian – gwaith morthwyl. Maen nhw i gael eu defnyddio i alw'r bobl at ei gilydd, ac i alw'r gwersyll i symud.

3. Pan mae'r ddau utgorn yn cael eu canu gyda'i gilydd bydd y bobl yn gwybod eu bod i gasglu o flaen mynedfa Pabell Presenoldeb Duw.

4. Ond os mai un utgorn sy'n canu, dim ond arweinwyr llwythau Israel sydd i ddod.

5. Pan mae un nodyn hir yn cael ei seinio, mae'r rhai sy'n gwersylla i'r dwyrain o'r Tabernacl i symud allan.

6. Wedyn pan mae nodyn hir arall yn cael ei seinio, mae'r rhai sy'n gwersylla ar yr ochr ddeheuol i'w dilyn. Y nodyn hir ydy'r arwydd eu bod i symud allan.

7. Ond i alw pawb at ei gilydd rhaid canu nodau gwahanol.

8. Meibion Aaron, yr offeiriaid, sydd i ganu'r utgyrn. A dyna fydd y drefn bob amser, ar hyd y cenedlaethau.

9. Ar ôl i chi gyrraedd eich gwlad, os byddwch chi'n mynd i ryfel yn erbyn eich gelynion, rhaid seinio ffanffer ar yr utgyrn yma. Wedyn bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cofio amdanoch chi ac yn eich achub chi o afael eich gelynion.

10. “Canwch yr utgyrn hefyd ar yr adegau hynny pan fyddwch chi'n dathlu – ar y Gwyliau blynyddol ac ar ddechrau pob mis pan fyddwch chi'n cyflwyno eich offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Bydd yr utgyrn yn eich atgoffa chi i gadw'ch meddyliau ar Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”

Pobl Israel yn symud y gwersyll

11. Ar ddechrau'r ail flwyddyn wedi i bobl Israel ddod allan o'r Aifft (ar yr ugeinfed diwrnod o'r ail fis) dyma'r cwmwl yn codi oddi ar dabernacl y dystiolaeth.

12. Felly dyma bobl Israel yn cychwyn ar eu taith o anialwch Sinai. Ac yn y diwedd dyma'r cwmwl yn aros yn anialwch Paran.

13. Hwn oedd y tro cyntaf iddyn nhw symud, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

14. Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Jwda aeth gyntaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Jwda dan arweiniad Nachshon fab Aminadab.

15. Wedyn roedd Nethanel fab Tswár yn arwain llwyth Issachar,

16. ac Eliab fab Chelon yn arwain llwyth Sabulon.

17. Nesaf, dyma'r Tabernacl yn cael ei dynnu i lawr. A dyma'r Gershoniaid a'r Merariaid, oedd yn cario'r Tabernacl, yn mynd allan.

18. Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Reuben aeth nesaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Reuben dan arweiniad Elisur fab Shedeŵr.

19. Wedyn roedd Shelwmiel fab Swrishadai yn arwain llwyth Simeon,

20. ac Eliasaff fab Dewel yn arwain llwyth Gad.

21. Yna dyma'r Cohathiaid, oedd yn cario offer y cysegr, yn eu dilyn. (Roedd y Tabernacl i fod i gael ei godi eto cyn iddyn nhw gyrraedd.)

22. Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Effraim oedd nesaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Effraim dan arweiniad Elishama fab Amihwd.

23. Wedyn roedd Gamaliel fab Pedatswr yn arwain llwyth Manasse,

24. ac Abidan fab Gideoni yn arwain llwyth Benjamin.

25. Ac yna'n olaf, y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Dan. Roedd adrannau llwyth Dan dan arweiniad Achieser fab Amishadai.

26. Wedyn roedd Pagiel fab Ochran yn arwain llwyth Asher,

27. ac Achira fab Enan yn arwain llwyth Nafftali.

28. Dyna'r drefn aeth pobl Israel allan, adran wrth adran. A dyma nhw'n teithio yn eu blaenau.

29. Dyma Moses yn dweud wrth Chobab (mab i Reuel o Midian, tad-yng-nghyfraith Moses), “Dŷn ni ar ein ffordd i'r wlad mae'r ARGLWYDD wedi addo ei rhoi i ni. Tyrd gyda ni. Byddwn ni'n dy drin di'n dda. Mae'r ARGLWYDD wedi addo pethau gwych i bobl Israel.”

30. Ond atebodd Chobab, “Na, dw i ddim am ddod. Dw i am fynd adre i'm gwlad, at fy mhobl fy hun.”

31. “Paid gadael ni,” meddai Moses, “Gelli di ein tywys ni drwy'r anialwch. Ti'n gwybod am y lleoedd gorau i wersylla.

32. Os doi di, byddi di'n cael rhannu'r holl bethau da sydd gan yr ARGLWYDD ar ein cyfer ni.”

33. Felly dyma nhw'n gadael mynydd yr ARGLWYDD ac yn teithio am dri diwrnod. Ac roedd Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaenau nhw, i ddangos iddyn nhw ble i stopio a gorffwys.

34. Wrth iddyn nhw adael y gwersyll, roedd cwmwl yr ARGLWYDD uwch eu pennau.

35. Pan oedd yr Arch yn dechrau symud, byddai Moses yn gweiddi:“Cod, ARGLWYDD!Boed i dy elynion gael eu gwasgaru,a'r rhai sydd yn dy erbyn ddianc oddi wrthot ti!”

36. A pan oedd yr Arch yn cael ei rhoi i lawr, byddai'n gweiddi:“Gorffwys, ARGLWYDDgyda'r miloedd ar filoedd o bobl Israel!”