Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 30 beibl.net 2015 (BNET)

Rheolau am wneud addunedau

1. Yna dyma Moses yn siarad gydag arweinwyr llwythau Israel. Dwedodd wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn:

2. “Pan mae rhywun yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, neu'n tyngu llw, rhaid iddo gadw ei air a gwneud beth ddwedodd e.

3. “Os ydy merch ifanc, sy'n dal i fyw adre gyda'i theulu, yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, neu'n gosod ei hun dan lw,

4. a'i thad yn ei chlywed yn gwneud hynny, ac yn dweud dim am y peth, mae'r addewid wnaeth hi yn sefyll – rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo.

5. Ond os ydy ei thad yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi, am fod ei thad wedi dweud yn wahanol.

6. “Os ydy'r ferch yn priodi ar ôl tyngu llw neu wneud addewid byrbwyll,

7. a'i gŵr yn clywed am y peth ond yn dweud dim, mae'r addewid wnaeth hi yn sefyll – rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo.

8. Ond os ydy ei gŵr yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi.

9. “Os ydy gwraig weddw, neu wraig sydd wedi cael ysgariad yn gwneud addewid, rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo.

10. Os gwnaeth hi'r adduned, neu osod ei hun dan lw pan oedd hi'n byw gyda'i gŵr

11. a'i gŵr yn clywed am y peth, ond yn dweud dim yn wahanol, bydd rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo.

12. Ond os ydy ei gŵr hi yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Mae ei gŵr wedi dweud yn wahanol, a bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi.

13. Felly mae ei gŵr yn gallu cadarnhau'r addewid mae'n ei wneud i ymwrthod â rhywbeth, neu'n gallu dweud yn wahanol.

14. Pan mae'r gŵr yn dweud dim am y peth am ddyddiau lawer, mae e'n cadarnhau'r addewid neu'r ymrwymiad mae wedi ei wneud. Mae'n ei gadarnhau am ei fod wedi dweud dim am y peth.

15. Os ydy e'n dweud yn wahanol beth amser ar ôl iddo glywed am y peth, fe fydd yn gyfrifol am ei phechod hi.”

16. Dyma'r rheolau roddodd yr ARGLWYDD i Moses am y drefn gyda dyn a'i wraig, neu dad a'i ferch ifanc sy'n dal i fyw gyda'r teulu.