Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 17 beibl.net 2015 (BNET)

Ffon Aaron

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Dw i eisiau i ti gymryd ffon gan arweinydd pob un o lwythau Israel – un deg dwy ohonyn nhw i gyd – ac ysgrifennu enw'r arweinydd ar ei ffon ei hun.

3. Ysgrifenna enw Aaron ar ffon llwyth Lefi. Bydd un ffon ar gyfer arweinydd pob llwyth.

4. Wedyn rhaid i ti osod y ffyn o flaen Arch yr ymrwymiad yn y babell lle dw i'n cyfarfod gyda ti.

5. Bydd ffon y dyn dw i'n ei ddewis yn blaguro. Dw i'n mynd i roi stop ar yr holl gwyno di-baid yma gan bobl Israel yn dy erbyn di.”

6. Felly dyma Moses yn siarad gyda phobl Israel, a dyma pob un o arweinwyr y llwythau yn rhoi ei ffon iddo – un deg dwy o ffyn i gyd. Ac roedd ffon Aaron yn un ohonyn nhw.

7. A dyma Moses yn gosod y ffyn o flaen yr ARGLWYDD tu mewn i Babell y Dystiolaeth.

8. Pan aeth Moses i Babell y Dystiolaeth y diwrnod wedyn, roedd ffon Aaron (yn cynrychioli llwyth Lefi) wedi blaguro! Roedd blagur, a blodau a chnau almon yn tyfu arni!

9. Felly dyma Moses yn dod a'r ffyn allan i bobl Israel edrych arnyn nhw. A dyma pob arweinydd yn cymryd y ffon oedd â'i enw e arni.

10. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd â ffon Aaron yn ôl i'w gosod o flaen y dystiolaeth. Bydd yn arwydd i rybuddio unrhyw un sy'n gwrthryfela. Bydd hyn yn stopio'r holl gwyno, ac yn arbed unrhyw un arall rhag marw.”

11. Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.

12. A dyma bobl Israel yn dweud wrth Moses, “Dŷn ni'n siŵr o farw! Mae hi ar ben arnon ni!

13. Mae unrhyw un sy'n mynd yn agos at Dabernacl yr ARGLWYDD yn siŵr o farw! Oes rhaid i ni i gyd farw?”