1. Ar ôl i'r pla orffen, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: ac wrth Eleasar fab Aaron, yr offeiriad:
2. “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad arall o bobl Israel – pawb o bob llwyth sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin.”
3. Ar y pryd roedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. A dyma Moses ac Eleasar yn dweud wrthyn nhw,
4. “Rhaid cyfrif pawb dros ugain oed.” Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn i Moses.A dyma bobl Israel ddaeth allan o wlad yr Aifft:
5. O lwyth Reuben (mab hynaf Jacob) – disgynyddion Hanoch, Palw,
6. Hesron, a Carmi.
7. Cyfanswm Reuben oedd 43,730.
8. (Roedd Eliab yn un o ddisgynyddion Palw,
9. sef tad Nemwel, Dathan ac Abiram. Roedd Dathan ac Abiram gyda Cora yn arwain y bobl wnaeth droi yn erbyn Moses ac Aaron a gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD.
10. A dyma'r ddaear yn agor ac yn eu llyncu nhw a Cora. Lladdodd y tân ddau gant pum deg ohonyn nhw. Mae beth ddigwyddodd iddyn nhw yn rhybudd i ni.
11. Ond wnaeth llinach Cora ei hun ddim diflannu'n llwyr.)
12. O lwyth Simeon – disgynyddion Nemwel, Iamin, Iachin,
13. Serach, a Saul.
14. Cyfanswm Simeon oedd 22,200.
15. O lwyth Gad – disgynyddion Seffon, Haggi, Shwni,
16. Osni, Eri,
17. Arod ac Areli.
18. Cyfanswm Gad oedd 40,500.
19. Roedd gan Jwda ddau fab, Er ac Onan, ond buodd y ddau farw yn fuan yn Canaan.
20. O lwyth Jwda – disgynyddion Shela, Perets, a Serach.
21. Ac o Perets – disgynyddion Hesron a Chamŵl.
22. Cyfanswm Jwda oedd 76,500.
23. O lwyth Issachar – disgynyddion Tola, Pwa,
24. Iashŵf, a Shimron.
25. Cyfanswm Issachar oedd 64,300.
26. O lwyth Sabulon – disgynyddion Sered, Elon a Iachle-el.
27. Cyfanswm Sabulon oedd 60,500.
28. Roedd dau lwyth, sef Manasse ac Effraim, yn ddisgynyddion i Joseff.
29. O lwyth Manasse – disgynyddion Machir a'i fab Gilead.
30. O Gilead – disgynyddion Ieser, Chelec,
31. Asriel, Sechem,
32. Shemida a Cheffer.
33. (Doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. Ac enwau'r merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa.)
34. Cyfanswm Manasse oedd 52,700.
35. O lwyth Effraim – disgynyddion Shwtelach, Becher, a Tachan.
36. Ac o Shwtelach – disgynyddion Eran.
37. Cyfanswm Effraim oedd 32,500. Roedden nhw i gyd yn ddisgynyddion Joseff, drwy Manasse ac Effraim.
38. O lwyth Benjamin – disgynyddion Bela, Ashbel, Achiram,
39. Sheffwffâm, a Hwffam.
40. Wedyn o feibion Bela – disgynyddion Ard a Naaman.
41. Cyfanswm Benjamin oedd 45,600.
42. O lwyth Dan – disgynyddion Shwcham. Y Shwchamiaid oedd disgynyddion Dan,
43. a'i cyfanswm nhw oedd 64,400.
44. O lwyth Asher – disgynyddion Imna, Ishfi, a Bereia.
45. Wedyn o feibion Bereia – disgynyddion Heber a Malciel.
46. Roedd gan Asher ferch hefyd, sef Serach.
47. Cyfanswm Asher oedd 53,400.
48. O lwyth Nafftali – disgynyddion Iachtseël, Gwni,
49. Jeser, a Shilem.
50. Cyfanswm Nafftali oedd 45,400.
51. Felly cyfanswm y dynion gafodd eu cyfri yn Israel oedd 601,730.
52. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
53. “Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y llwythau ar sail y ffigyrau yma.
54. Mae'r llwythau mwyaf i gael etifeddu mwy o dir na'r llwythau lleiaf. Mae faint o dir fydd pob llwyth yn ei gael yn seiliedig ar y ffigyrau yma.
55. Rhaid defnyddio coelbren wrth rannu'r tir, ond mae canlyniadau'r cyfrifiad i gael eu defnyddio i benderfynu faint o dir mae pob llwyth yn ei gael.
56. Bydd y tir mae'r llwythau bach a mawr yn ei etifeddu yn cael ei bennu drwy daflu coelbren.”
57. A dyma'r Lefiaid gafodd eu cyfrif – disgynyddion Gershon, Cohath a Merari.
58. A disgynyddion eraill Lefi – y Libniaid, Hebroniaid, Machliaid, Mwshiaid a Corahiaid. Cohath oedd tad Amram,
59. ac enw gwraig Amram oedd Iochefed, merch Lefi, gafodd ei geni yn yr Aifft. Wedyn plant Amram a Iochefed oedd Aaron, Moses, a Miriam eu chwaer.
60. Roedd Aaron yn dad i Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar.
61. Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r ARGLWYDD.
62. Roedd 23,000 o Lefiaid – pob dyn a bachgen oedd dros fis oed. Doedden nhw ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel, am fod dim tir i gael ei roi iddyn nhw fel i weddill llwythau Israel.
63. Felly dyna ffigyrau'r cyfrifiad wnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad, pan oedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.
64. Doedd neb o'r dynion gafodd eu cyfrif y tro yma, wedi eu cynnwys yn y cyfrifiad cyntaf wnaeth Moses ac Aaron yn anialwch Sinai.
65. Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, “Byddan nhw i gyd yn marw yn yr anialwch!” A doedd neb ohonyn nhw ar ôl, ar wahân i Caleb fab Jeffwnne a Josua fab Nwn.