Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 27 beibl.net 2015 (BNET)

Merched Seloffchad

1. Dyma ferched Seloffchad yn dod ymlaen. Roedd eu tad yn fab i Cheffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse – o glan Manasse fab Joseff. Enwau'r merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa.

2. Dyma nhw'n dod a sefyll o flaen Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac arweinwyr y bobl i gyd, wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.

3. “Buodd dad farw yn yr anialwch,” medden nhw. “Doedd e ddim yn un o'r rhai wnaeth wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD gyda Cora. Buodd e farw o achos ei bechod ei hun. Ond doedd ganddo fe ddim meibion.

4. Pam ddylai enw dad ddiflannu o hanes y teulu am fod ganddo ddim meibion? Rho dir i ni ei etifeddu gyda brodyr ein tad.”

5. Felly dyma Moses yn mynd â'r achos o flaen yr ARGLWYDD.

6. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

7. “Mae merched Seloffchad yn iawn. Rho dir iddyn nhw ei etifeddu gyda brodyr eu tad. Dylen nhw gael siâr eu tad o'r tir.

8. Felly rhaid i ti ddweud hyn wrth bobl Israel, ‘Os ydy dyn yn marw heb gael mab, rhaid i'r etifeddiaeth gael ei rhoi i'w ferch.

9. Os oes ganddo ddim merch chwaith, rhaid i'r etifeddiaeth fynd i'w frodyr.

10. Ac os oes ganddo ddim brodyr, mae'r etifeddiaeth i fynd i frodyr ei dad.

11. Ond os oes gan ei dad ddim brodyr chwaith, mae'r etifeddiaeth i gael ei rhoi i'r perthynas agosaf yn y teulu.’” Dyma fydd y drefn gyfreithiol yn Israel, yn union fel mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

Josua i olynu Moses

12. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dringa i ben mynyddoedd Afarîm, i ti weld y tir dw i'n ei roi i bobl Israel.

13. Ar ôl i ti gael ei weld, byddi di, fel Aaron dy frawd, yn marw,

14. am i'r ddau ohonoch chi wrthod gwneud beth ddwedais i yn anialwch Sin. Roedd y bobl wedi gwrthryfela, a dangos dim parch ata i wrth y dŵr,” (sef Ffynnon Meriba yn Cadesh yn anialwch Sin.)

15. Yna dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD:

16. “O ARGLWYDD, y Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth byw, rhaid i ti benodi rhywun i arwain y bobl.

17. Rhaid cael rhywun i'w harwain nhw allan i ryfel, a dod â nhw adre wedyn, neu bydd pobl yr ARGLWYDD fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw!”

18-19. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i eisiau i ti gymryd Josua fab Nwn – dyn sydd â'r Ysbryd ynddo – a'i gomisiynu e i'r gwaith drwy osod dy law arno. Gwna hyn yn gyhoeddus o flaen Eleasar yr offeiriad a'r bobl i gyd.

20. Maen nhw i weld dy fod wedi trosglwyddo'r awdurdod sydd gen ti iddo fe, ac wedyn byddan nhw'n ufuddhau iddo.

21. Bydd yn mynd at Eleasar yr offeiriad pan fydd angen arweiniad arno, a bydd Eleasar yn defnyddio'r Wrim i ddarganfod beth mae'r ARGLWYDD eisiau – pryd i fynd allan i ymladd, a pryd i ddod yn ôl.”

22. Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Dyma fe'n gwneud i Josua sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad a'r bobl i gyd.

23. Yna dyma fe'n ei gomisiynu i'r gwaith drwy osod ei ddwylo arno, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses am wneud.