Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 33 beibl.net 2015 (BNET)

Y daith o'r Aifft i Moab

1. Dyma'r lleoedd wnaeth pobl Israel deithio iddyn nhw (yn eu trefn) ar ôl dod allan o wlad yr Aifft dan arweiniad Moses ac Aaron.

2. Roedd Moses wedi cadw cofnod o wahanol gamau'r daith, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gofyn iddo wneud. A dyma eu symudiadau nhw:

3. Gadawodd pobl Israel Rameses ar y diwrnod ar ôl y Pasg, sef y pymthegfed diwrnod o'r mis cyntaf. Aethon nhw allan yn hyderus, o flaen pobl yr Aifft i gyd.

4. Roedd pobl yr Aifft wrthi'n claddu eu meibion hynaf. Yr ARGLWYDD oedd wedi eu lladd nhw y noson cynt, ac wedi dangos fod eu duwiau nhw yn dda i ddim.

5. Ar ôl gadael Rameses, dyma bobl Israel yn gwersylla yn Swccoth.

6. Yna gadael Swccoth a gwersylla yn Etham, sydd ar ymyl yr anialwch.

7. Gadael Etham a mynd yn ôl i gyfeiriad Pi-hachiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-tseffon, a gwersylla wrth ymyl Migdol.

8. Gadael Pi-hachiroth, a mynd trwy ganol y môr i'r anialwch yr ochr draw. Yna teithio am dri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersylla yn Mara.

9. Gadael Mara a gwersylla yn Elim, lle roedd deuddeg ffynnon a saith deg coeden balmwydd.

10. Gadael Elim a gwersylla wrth y Môr Coch.

11. Gadael y Môr Coch a gwersylla yn Anialwch Sin.

12. Yna gadael Anialwch Sin a gwersylla yn Doffca.

13. Gadael Doffca a gwersylla yn Alwsh.

14. Gadael Alwsh a gwersylla yn Reffidim, lle doedd dim dŵr i bobl ei yfed.

15. Gadael Reffidim a gwersylla yn anialwch Sinai.

16. Gadael anialwch Sinai a gwersylla yn Cibroth-hattaäfa.

17. Yna gadael Cibroth-hattaäfa a gwersylla yn Chatseroth.

18. Gadael Chatseroth a gwersylla yn Rithma.

19. Yna gadael Rithma a gwersylla yn Rimmon-perets.

20. Gadael Rimmon-perets a gwersylla yn Libna.

21. Gadael Libna a gwersylla yn Rissa.

22. Gadael Rissa a gwersylla yn Cehelatha.

23. Gadael Cehelatha a gwersylla wrth Fynydd Sheffer.

24. Gadael Mynydd Sheffer a gwersylla yn Charada.

25. Gadael Charada a gwersylla yn Macelot.

26. Gadael Macelot a gwersylla yn Tachath.

27. Gadael Tachath a gwersylla yn Tera.

28. Gadael Tera a gwersylla yn Mithca.

29. Gadael Mithca a gwersylla yn Chashmona.

30. Gadael Chashmona a gwersylla yn Moseroth.

31. Gadael Moseroth a gwersylla yn Bene-iaacan.

32. Gadael Bene-iaacan a gwersylla yn Chor-haggidgad.

33. Gadael Chor-haggidgad a gwersylla yn Iotbatha.

34. Gadael Iotbatha a gwersylla yn Afrona.

35. Gadael Afrona a gwersylla yn Etsion-geber.

36. Gadael Etsion-geber a gwersylla yn Cadesh yn anialwch Sin.

37. Gadael Cadesh a gwersylla wrth Fynydd Hor sydd ar ffin gwlad Edom.

38. Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Aaron yr offeiriad am fynd i ben Mynydd Hor. A dyna lle buodd Aaron farw, ar ddiwrnod cynta'r pumed mis, bedwar deg o flynyddoedd ar ôl i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft.

39. Roedd Aaron yn gant dau ddeg tri mlwydd oed pan fu farw.

40. Wedyn clywodd brenin Canaaneaidd Arad, oedd yn byw yn y Negef (de gwlad Canaan), fod pobl Israel ar eu ffordd.

41. Yna dyma bobl Israel yn gadael Mynydd Hor a gwersylla yn Salmona.

42. Yna gadael Salmona a gwersylla yn Pwnon.

43. Gadael Pwnon a gwersylla yn Oboth.

44. Gadael Oboth a gwersylla yn Ïe-hafarîm, ar y ffin gyda Moab.

45. Gadael Ïe-hafarîm a gwersylla yn Dibon-gad.

46. Gadael Dibon-gad a gwersylla yn Almon-diblathaim.

47. Gadael Almon-diblathaim a gwersylla ym mynyddoedd Afarîm, gyferbyn â Nebo.

48. Gadael mynyddoedd Afarîm a gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.

49. (Roedden nhw'n gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, yr holl ffordd o Beth-ieshimoth i Abel-sittim.)

Rhannu'r wlad

50. Pan oedden nhw'n gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

51. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch chi wedi croesi'r Iorddonen a mynd i mewn i wlad Canaan

52. dw i eisiau i chi yrru'r bobl sy'n byw yno allan o'r wlad. Rhaid i chi ddinistrio'r eilunod wedi eu cerfio, a'r delwau o fetel tawdd, a chwalu'r allorau paganaidd i gyd.

53. Dw i eisiau i chi gymryd y wlad drosodd, a setlo i lawr ynddi. Dw i wedi rhoi'r wlad i chi. Chi piau hi.

54. “‘Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y claniau drwy fwrw coelbren. Mae faint o dir mae pob clan yn ei etifeddu yn dibynnu ar faint y clan – pa mor fawr neu fach ydy e. Ond mae'r lleoliad yn dibynnu ar ble mae'r coelbren yn syrthio. Mae i'w rannu rhwng llwythau'r hynafiaid.

55. Os na wnewch chi yrru'r bobl sy'n byw yno allan o'r wlad, fyddan nhw'n achosi dim byd ond trwbwl i chi – fel llwch yn eich llygaid neu ddraenen yn eich ochr.

56. A bydda i'n gwneud i chi beth roeddwn i'n bwriadu ei wneud iddyn nhw.’”