Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 2 beibl.net 2015 (BNET)

Trefn y Llwythau yn y gwersyll

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:

2. Rhaid i bobl Israel wersylla o gwmpas Pabell presenoldeb Duw (sef y Tabernacl), gan wynebu'r Tabernacl. Mae pawb i wersylla o dan fflag eu llwyth eu hunain.

3-9. Ar yr ochr ddwyreiniol bydd adrannau'r tri llwyth yma yn gwersylla dan eu fflag:Llwyth Arweinydd Nifer Jwda Nachshon fab Aminadab 74,600 Issachar Nethanel fab Tswár 54,400 Sabulon Eliab fab Chelon 57,400 Cyfanswm: 186,400 Y milwyr ar ochr Jwda o'r gwersyll fydd yn arwain y ffordd pan fydd pobl Israel yn symud.

10-16. I'r de bydd adrannau tri llwyth arall yn gwersylla dan eu fflag:Llwyth Arweinydd Nifer Reuben Elisur fab ShedeĊµr 46,500 Simeon Shelwmiel fab Swrishadai 59,300 Gad Eliasaff fab Dewel 45,650 Cyfanswm: 151,450 Y milwyr yma ar ochr Reuben i'r gwersyll fydd yn ail i symud allan.

17. Wedyn bydd gwersyll y Lefiaid yn symud, gyda Pabell presenoldeb Duw. Nhw fydd yn y canol. Mae'r llwythau i gyd i symud allan mewn trefn, pob un ohonyn nhw dan ei fflag ei hun.

18-24. Ar yr ochr orllewinol bydd adrannau y tri llwyth nesaf yn gwersylla dan eu fflag:Llwyth Arweinydd Nifer Effraim Elishama fab Amihwd 40,500 Manasse Gamaliel fab Pedatswr 32,200 Benjamin Abidan fab Gideoni 35,400 Cyfanswm: 108,100 Y milwyr yma ar ochr Effraim i'r gwersyll fydd y trydydd i symud allan.

25-31. I'r gogledd bydd adrannau'r tri llwyth olaf yn gwersylla o dan eu fflag:Llwyth Arweinydd Nifer Dan Achieser fab Amishadai 62,700 Asher Pagiel fab Ochran 41,500 Nafftali Achira fab Enan 53,400 Cyfanswm: 157,600 Y milwyr yma ar ochr Dan i'r gwersyll fydd yn symud allan olaf. Bydd pob llwyth yn mynd dan ei fflag ei hun.

32. Dyma'r rhai gafodd eu cyfrif o Israel yn ôl eu llwythau. Cyfanswm y dynion yn yr adrannau i gyd ydy 603,550.

33. Doedd y Lefiaid ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel. Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn i Moses.

34. Felly dyma bobl Israel yn gwneud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses. Roedd pob llwyth a theulu yn gwersylla dan eu fflag eu hunain, ac yn symud gwersyll fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.