Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 34 beibl.net 2015 (BNET)

Ffiniau'r wlad

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Dywed wrth bobl Israel: ‘Pan ewch i mewn i wlad Canaan, dyma'r ffiniau i'r tir dw i'n ei roi i chi i'w etifeddu:

3. Bydd ffin y de yn mynd o anialwch Sin i'r ffin gydag Edom. Bydd yn ymestyn i'r dwyrain at ben isaf y Môr Marw.

4. Bydd yn mynd i'r de, heibio Bwlch Acrabbîm (sef Bwlch y Sgorpion), ymlaen i Sin ac yna i gyfeiriad Cadesh-barnea, ac wedyn i Chatsar-adar a throsodd i Atsmon.

5. O'r fan honno bydd y ffin yn troi i ddilyn Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir.

6. “‘Y Môr Mawr (sef Môr y Canoldir) fydd y ffin i'r gorllewin.

7. “‘Bydd ffin y gogledd yn mynd o Fôr y Canoldir i Fynydd Hor,

8. ac yna i Fwlch Chamath ac ymlaen i Sedad.

9. Yna o Sedad ymlaen i Siffron, ac wedyn i Chatsar-einan. Dyna fydd ffin y gogledd.

10. “‘Bydd ffin y dwyrain yn mynd i gyfeiriad y de o Chatsar-einan i Sheffam;

11. wedyn o Sheffam i Ribla sydd i'r dwyrain o Ain. Yna i lawr ochr ddwyreiniol Llyn Galilea,

12. ac ar hyd Afon Iorddonen yr holl ffordd i'r Môr Marw. Dyna fydd y ffiniau o gwmpas eich tir chi.’”

13. A dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel: “Dyma'r tir fydd yn cael ei rannu rhyngoch chi. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud ei fod i gael ei roi i'r naw llwyth a hanner sydd ar ôl.

14. Mae llwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse wedi cael eu tir nhw.

15. Maen nhw wedi cael tir yr ochr yma i'r Iorddonen, sef i'r dwyrain o Jericho.”

Y dynion sydd i rannu'r tir

16. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

17. “Dyma'r dynion fydd yn gyfrifol am rannu'r tir rhyngoch chi: Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nwn.

18. A rhaid i chi gymryd un arweinydd o bob llwyth i helpu gyda'r gwaith.”

19-28. Dyma enwau'r arweinwyr ddewisodd yr ARGLWYDD:Arweinydd Llwyth Caleb fab Jeffwnne Jwda Shemwel fab Amihwd Simeon Elidad fab Cislon Benjamin Bwcci fab Iogli Dan Channiel fab Effod Manasse Cemwel fab Shifftan Effraim Elitsaffan fab Parnach Sabulon Paltiel fab Assan Issachar Achihwd fab Shelomi Asher Pedahel fab Amihwd Nafftali

29. Y rhain gafodd eu dewis gan yr ARGLWYDD i fod yn gyfrifol am rannu tir Canaan rhwng pobl Israel.