Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 31 beibl.net 2015 (BNET)

Y rhyfel yn erbyn Midian

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Dial ar bobl Midian am beth wnaethon nhw i bobl Israel. Ar ôl i ti wneud hynny byddi di'n mynd at dy hynafiaid sydd wedi marw.”

3. Felly dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Dewiswch ddynion i fynd i ryfel yn erbyn Midian, ac i ddial arnyn nhw ar ran yr ARGLWYDD.

4. Rhaid anfon mil o ddynion o bob llwyth i'r frwydr.”

5. Felly dyma nhw'n dewis mil o ddynion o bob llwyth yn Israel – un deg dau mil o ddynion arfog yn barod i ymladd.

6. A dyma Moses yn eu hanfon nhw allan, gyda Phineas (mab Eleasar yr offeiriad) yn gofalu am y taclau o'r cysegr a'r utgyrn i alw'r fyddin.

7. A dyma nhw'n mynd allan i ymladd yn erbyn Midian, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Dyma nhw'n lladd y dynion i gyd,

8. gan gynnwys pum brenin Midian, sef Efi, Recem, Swr, Hur, a Reba, a hefyd Balaam fab Beor.

9. Yna dyma fyddin Israel yn cymryd merched a phlant Midian yn gaeth. Dyma nhw hefyd yn cymryd eu gwartheg, defaid, a popeth arall o werth oddi arnyn nhw.

10. Wedyn dyma nhw'n llosgi eu trefi a'u pentrefi nhw i gyd.

11. Dyma nhw'n ysbeilio ac yn dwyn popeth, gan gynnwys y bobl a'r anifeiliaid i gyd.

12. A dyma nhw'n mynd â'r cwbl yn ôl at Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl bobl Israel oedd yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth yr Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho.

13. Aeth Moses ac Eleasar a'r arweinwyr eraill i gyfarfod y fyddin tu allan i'r gwersyll.

14. Ond dyma Moses yn gwylltio'n lân gyda swyddogion y fyddin – y capteiniaid ar unedau o fil a'r unedau o gant oedd wedi dod yn ôl o'r frwydr.

15. “Pam ydych chi wedi cadw'r merched yn fyw?” meddai wrthyn nhw.

16. “Dyma'r union bobl wnaeth wrando ar Balaam, a gwneud i bobl Israel wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD yn y digwyddiad yn Peor! A'r canlyniad oedd y pla ofnadwy wnaeth daro pobl yr ARGLWYDD!

17. Felly lladdwch y bechgyn i gyd, a lladdwch bob gwraig sydd wedi cysgu gyda dyn.

18. Ond cewch gadw'n fyw y merched ifanc hynny sydd heb eto gael rhyw.”

19. “Pwy bynnag sydd wedi lladd rhywun, neu wedi cyffwrdd corff marw, rhaid i chi aros tu allan i'r gwersyll am saith diwrnod. A rhaid i chi a'r merched dych chi wedi eu cymryd yn gaeth fynd drwy'r ddefod o buro eich hunain ar y trydydd diwrnod a'r seithfed diwrnod.

20. Rhaid i chi lanhau eich dillad i gyd, a popeth sydd wedi ei wneud o groen anifail, blew gafr neu bren.”

21. Yna dyma Eleasar yr offeiriad yn dweud wrth y dynion oedd wedi bod yn ymladd yn y frwydr, “Dyma reol roddodd yr ARGLWYDD orchymyn i Moses i ni ei chadw:

22. Mae popeth sydd wedi ei wneud o aur, arian, pres, haearn, tin neu blwm

23. (popeth sydd ddim yn llosgi) i gael ei buro drwy dân, a bydd yn lân yn seremonïol, ond rhaid iddo gael ei daenellu gyda dŵr y puro hefyd. Mae popeth fyddai'n llosgi yn y tân i gael ei buro gyda'r dŵr yn unig.

24. Yna rhaid i chi olchi eich dillad ar y seithfed diwrnod. Wedyn byddwch chi'n lân yn seremonïol, a gallwch ddod yn ôl i mewn i'r gwersyll.”

Rhannu'r ysbail

25. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

26. “Dw i eisiau i ti ac Eleasar yr offeiriad, a'r arweinwyr eraill, gyfri'r ysbail gafodd ei gasglu i gyd – yn ferched a phlant ac yn anifeiliaid.

27. Yna rhannu'r cwbl rhwng y dynion aeth i ymladd yn y frwydr, a gweddill pobl Israel.

28. Ond rhaid cymryd cyfran i'r ARGLWYDD o siâr y milwyr fuodd yn ymladd: Cyfran yr ARGLWYDD o'r caethion, y gwartheg, asynnod a defaid, fydd un o bob pum cant.

29. Mae hwn i'w gymryd o siâr y milwyr, a'i roi i Eleasar yr offeiriad i'w gyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD.

30. Yna o'r hanner arall, sef siâr pobl Israel, rhaid cymryd un o bob hanner cant o'r caethion, y gwartheg, yr asynnod, a'r defaid. Un o bob hanner cant o'r anifeiliaid i gyd, i'w cyflwyno i'r Lefiaid sy'n gofalu am y Tabernacl i'r ARGLWYDD.”

31. Felly dyma Moses ac Eleasar yr offeiriad yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

32. A dyma swm yr ysbail roedd y dynion wedi ei gasglu:675,000 o ddefaid,

33. 72,000 o wartheg,

34. 61,000 o asynnod,

35. a 32,000 o ferched ifanc oedd erioed wedi cysgu gyda dyn.

36. Siâr y dynion oedd wedi mynd i ymladd yn y rhyfel oedd:337,500 o ddefaid

37. – 675 ohonyn nhw'n mynd i'r ARGLWYDD.

38. 36,000 o wartheg – 72 ohonyn nhw i'r ARGLWYDD.

39. 30,500 o asynnod – 61 ohonyn nhw i'r ARGLWYDD.

40. 16,000 o ferched ifanc – 32 ohonyn nhw i'r ARGLWYDD.

41. Felly dyma Moses yn rhoi'r siâr oedd i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD i Eleasar yr offeiriad, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.

42. A dyma oedd siâr pobl Israel, sef hanner arall yr ysbail:

43. 675,000 o ddefaid,

44. 36,000 o wartheg,

45. 30,500 o asynnod,

46. a 16,000 o ferched ifanc.

47. A dyma Moses yn cymryd un o bob hanner cant o siâr pobl Israel, a'i roi i'r Lefiaid oedd yn gofalu am y Tabernacl i'r ARGLWYDD, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.

48. Yna dyma'r swyddogion milwrol yn dod at Moses – capteiniaid yr unedau o fil ac o gant.

49. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae dy weision wedi cyfri'r dynion fuodd yn ymladd yn y frwydr gyda ni. Dŷn ni wedi colli neb!

50. Felly dŷn ni wedi dod ag offrwm i'r ARGLWYDD o'r tlysau aur wnaethon ni eu casglu – breichledau, modrwyau, clustdlysau a chadwyni. Mae hyn i wneud pethau'n iawn rhyngon ni â Duw.”

51. Dyma Moses ac Eleasar yn cymryd yr aur ganddyn nhw – pob math o dlysau cywrain.

52. Roedd yr aur i gyd, gafodd ei gyflwyno i'r ARGLWYDD gan y capteiniaid, yn pwyso bron ddau gan cilogram.

53. (Roedd pob un o'r dynion wedi cymryd peth o'r ysbail iddo'i hun.)

54. Felly dyma Moses ac Eleasar yr offeiriad yn derbyn yr aur gan y capteiniaid, ac yn mynd â'r cwbl i Babell Presenoldeb Duw i atgoffa'r ARGLWYDD o bobl Israel.