Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yn y dyddiau hynny, a'r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebreaid, am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy yn y weinidogaeth feunyddiol.

2. Yna y deuddeg a alwasant ynghyd y lliaws disgyblion, ac a ddywedasant, Nid yw gymesur i ni adael gair Duw, a gwasanaethu byrddau.

3. Am hynny, frodyr, edrychwch yn eich plith am seithwyr da eu gair, yn llawn o'r Ysbryd Glân a doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl.

4. Eithr ni a barhawn mewn gweddi a gweinidogaeth y gair.

5. A bodlon fu'r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân, a Philip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia:

6. Y rhai a osodasant hwy gerbron yr apostolion; ac wedi iddynt weddïo, hwy a ddodasant eu dwylo arnynt hwy.

7. A gair Duw a gynyddodd; a rhifedi'r disgyblion yn Jerwsalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid a ufuddhasant i'r ffydd.

8. Eithr Steffan, yn llawn ffydd a nerth, a wnaeth ryfeddodau ac arwyddion mawrion ymhlith y bobl.

9. Yna y cyfododd rhai o'r synagog a elwir eiddo y Libertiniaid, a'r Cyreniaid, a'r Alexandriaid, a'r rhai o Cilicia, ac o Asia, gan ymddadlau â Steffan:

10. Ac ni allent wrthwynebu'r doethineb a'r ysbryd trwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru.

11. Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, Nyni a'i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw.

12. A hwy a gynyrfasant y bobl, a'r henuriaid, a'r ysgrifenyddion; a chan ddyfod arno, a'i cipiasant ef, ac a'i dygasant i'r gynghorfa;

13. Ac a osodasant gau dystion, y rhai a ddywedent, Nid yw'r dyn hwn yn peidio â dywedyd cableiriau yn erbyn y lle sanctaidd hwn, a'r gyfraith:

14. Canys nyni a'i clywsom ef yn dywedyd, y distrywiai yr Iesu hwn o Nasareth y lle yma, ac y newidiai efe y defodau a draddododd Moses i ni.

15. Ac fel yr oedd yr holl rai a eisteddent yn y cyngor yn dal sylw arno, hwy a welent ei wyneb ef fel wyneb angel.