Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr oedd rhyw ŵr yn Cesarea, a'i enw Cornelius, canwriad o'r fyddin a elwid yr Italaidd;

2. Gŵr defosiynol, ac yn ofni Duw, ynghyd â'i holl dŷ, ac yn gwneuthur llawer o elusennau i'r bobl, ac yn gweddïo Duw yn wastadol.

3. Efe a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o'r dydd, angel Duw yn dyfod i mewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius.

4. Ac wedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddïau di a'th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw.

5. Ac yn awr anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr:

6. Y mae efe yn lletya gydag un Simon, barcer; tŷ'r hwn sydd wrth y môr: efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur.

7. A phan ymadawodd yr angel oedd yn ymddiddan â Chornelius, efe a alwodd ar ddau o dylwyth ei dŷ, a milwr defosiynol o'r rhai oedd yn aros gydag ef:

8. Ac wedi iddo fynegi iddynt y cwbl, efe a'u hanfonodd hwynt i Jopa.

9. A thrannoeth, fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio, ac yn nesáu at y ddinas, Pedr a aeth i fyny ar y tŷ i weddïo, ynghylch y chweched awr.

10. Ac fe ddaeth arno newyn mawr, ac efe a chwenychai gael bwyd. Ac a hwynt yn paratoi iddo, fe syrthiodd arno lewyg:

11. Ac efe a welai y nef yn agored, a rhyw lestr yn disgyn arno, fel llenlliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, a'i gollwng i waered hyd y ddaear:

12. Yn yr hon yr oedd pob rhyw bedwarcarnolion y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y nef.

13. A daeth llef ato, Cyfod, Pedr; lladd, a bwyta.

14. A Phedr a ddywedodd, Nid felly, Arglwydd: canys ni fwyteais i erioed ddim cyffredin neu aflan.

15. A'r llef drachefn a ddywedodd wrtho yr ail waith, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin.

16. A hyn a wnaed dair gwaith: a'r llestr a dderbyniwyd drachefn i fyny i'r nef.

17. Ac fel yr oedd Pedr yn amau ynddo'i hun beth oedd y weledigaeth a welsai; wele, y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Simon, oeddynt yn sefyll wrth y porth.

18. Ac wedi iddynt alw, hwy a ofynasant a oedd Simon, yr hwn a gyfenwid Pedr, yn lletya yno.

19. Ac fel yr oedd Pedr yn meddwl am y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd wrtho, Wele dri wŷr yn dy geisio di.

20. Am hynny cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt, heb amau dim: oherwydd myfi a'u hanfonais hwynt.

21. A Phedr, wedi disgyn at y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius ato, a ddywedodd, Wele, myfi yw'r hwn yr ydych chwi yn ei geisio: beth yw yr achos y daethoch o'i herwydd?

22. Hwythau a ddywedasant, Cornelius y canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd, i ddanfon amdanat ti i'w dŷ, ac i wrando geiriau gennyt.

23. Am hynny efe a'u galwodd hwynt i mewn, ac a'u lletyodd hwy. A thrannoeth yr aeth Pedr ymaith gyda hwy, a rhai o'r brodyr o Jopa a aeth gydag ef.

24. A thrannoeth yr aethant i mewn i Cesarea. Ac yr oedd Cornelius yn disgwyl amdanynt; ac efe a alwasai ei geraint a'i annwyl gyfeillion ynghyd.

25. Ac fel yr oedd Pedr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a'i haddolodd ef.

26. Eithr Pedr a'i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, Cyfod; dyn wyf finnau hefyd.

27. A than ymddiddan ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi ymgynnull ynghyd.

28. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymwasgu neu ddyfod at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan.

29. O ba herwydd, ie, yn ddi‐nag, y deuthum, pan anfonwyd amdanaf: yr wyf gan hynny yn gofyn am ba achos y danfonasoch amdanaf.

30. A Chornelius a ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod i'r awr hon o'r dydd yr oeddwn yn ymprydio, ac ar y nawfed awr yn gweddïo yn fy nhŷ: ac wele, safodd gŵr ger fy mron mewn gwisg ddisglair,

31. Ac a ddywedodd, Cornelius, gwrandawyd dy weddi di, a'th elusennau a ddaethant mewn coffa gerbron Duw.

32. Am hynny anfon i Jopa, a galw am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr: y mae efe yn lletya yn nhŷ Simon, barcer, yng nglan y môr; yr hwn, pan ddelo atat, a lefara wrthyt.

33. Am hynny yn ddi‐oed myfi a anfonais atat; a thi a wnaethost yn dda ddyfod. Yr awron, gan hynny, yr ŷm ni oll yn bresennol gerbron Duw, i wrando'r holl bethau a orchmynnwyd i ti gan Dduw.

34. Yna yr agorodd Pedr ei enau, ac a ddywedodd, Yr wyf yn deall mewn gwirionedd, nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb:

35. Ond ym mhob cenedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymeradwy ganddo ef.

36. Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel, gan bregethu tangnefedd trwy Iesu Grist: (efe yw Arglwydd pawb oll:)

37. Chwychwi a wyddoch y gair a fu yn holl Jwdea, gan ddechrau o Galilea, wedi'r bedydd a bregethodd Ioan:

38. Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nasareth â'r Ysbryd Glân, ac â nerth; yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iacháu pawb a'r oedd wedi eu gorthrymu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gydag ef.

39. A ninnau ydym dystion o'r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon, ac yn Jerwsalem; yr hwn a laddasant, ac a groeshoeliasant ar bren:

40. Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddes ef i'w wneuthur yn amlwg;

41. Nid i'r bobl oll, eithr i'r tystion etholedig o'r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw.

42. Ac efe a orchmynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu, mai efe yw'r hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw.

43. I hwn y mae'r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.

44. A Phedr eto yn llefaru'r geiriau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair.

45. A'r rhai o'r enwaediad a oeddynt yn credu, cynifer ag a ddaethent gyda Phedr, a synasant, am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd.

46. Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr atebodd Pedr,

47. A all neb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Ysbryd Glân fel ninnau?

48. Ac efe a orchmynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd. Yna y deisyfasant arno aros dros ennyd o ddyddiau.