1. Yr oedd hefyd yn yr eglwys ydoedd yn Antiochia, rai proffwydi ac athrawon; Barnabas, a Simeon, yr hwn a elwid Niger, a Lwcius o Cyrene, a Manaen, brawdmaeth Herod y tetrarch, a Saul.
2. Ac fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glân, Neilltuwch i mi Barnabas a Saul, i'r gwaith y gelwais hwynt iddo.
3. Yna, wedi iddynt ymprydio a gweddïo, a dodi eu dwylo arnynt, hwy a'u gollyngasant ymaith.
4. A hwythau, wedi eu danfon ymaith gan yr Ysbryd Glân, a ddaethant i Seleucia; ac oddi yno a fordwyasant i Cyprus.
5. A phan oeddynt yn Salamis, hwy a bregethasant air Duw yn synagogau yr Iddewon: ac yr oedd hefyd ganddynt Ioan yn weinidog.
6. Ac wedi iddynt dramwy trwy'r ynys hyd Paffus, hwy a gawsant ryw swynwr, gau broffwyd o Iddew, a'i enw Bar‐iesu;
7. Yr hwn oedd gyda'r rhaglaw, Sergius Paulus, gŵr call: hwn, wedi galw ato Barnabas a Saul, a ddeisyfodd gael clywed gair Duw.
8. Eithr Elymas y swynwr, (canys felly y cyfieithir ei enw ef,) a'u gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gŵyrdroi'r rhaglaw oddi wrth y ffydd.
9. Yna Saul, (yr hwn hefyd a elwir Paul,) yn llawn o'r Ysbryd Glân, a edrychodd yn graff arno ef,
10. Ac a ddywedodd, O gyflawn o bob twyll a phob ysgelerder, tydi mab diafol, a gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi di â gŵyro union ffyrdd yr Arglwydd?
11. Ac yn awr wele, y mae llaw yr Arglwydd arnat ti, a thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amser. Ac yn ddiatreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch; ac efe a aeth oddi amgylch gan geisio rhai i'w arwain erbyn ei law.
12. Yna y rhaglaw, pan welodd yr hyn a wnaethid, a gredodd, gan ryfeddu wrth ddysgeidiaeth yr Arglwydd.
13. A Phaul a'r rhai oedd gydag ef a aethant ymaith o Paffus, ac a ddaethant i Perga yn Pamffylia: eithr Ioan a ymadawodd oddi wrthynt, ac a ddychwelodd i Jerwsalem.
14. Eithr hwynt‐hwy, wedi ymado o Perga, a ddaethant i Antiochia yn Pisidia, ac a aethant i mewn i'w synagog ar y dydd Saboth, ac a eisteddasant.
15. Ac ar ôl darllen y gyfraith a'r proffwydi, llywodraethwyr y synagog a anfonasant atynt, gan ddywedyd, Ha wŷr, frodyr, od oes gennych air o gyngor i'r bobl, traethwch.
16. Yna y cyfododd Paul i fyny, a chan amneidio â'i law am osteg, a ddywedodd, O wŷr o Israel, a'r rhai ydych yn ofni Duw, gwrandewch.
17. Duw y bobl hyn Israel a etholodd ein tadau ni, ac a ddyrchafodd y bobl, pan oeddynt yn ymdeithio yng ngwlad yr Aifft, ac â braich uchel y dug efe hwynt oddi yno allan.
18. Ac ynghylch deugain mlynedd o amser y goddefodd efe eu harferion hwynt yn yr anialwch.
19. Ac wedi iddo ddinistrio saith genedl yn nhir Canaan, â choelbren y parthodd efe dir y rhai hynny iddynt hwy.
20. Ac wedi'r pethau hyn, dros ysbaid ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain, efe a roddes farnwyr iddynt, hyd Samuel y proffwyd.
21. Ac ar ôl hynny y dymunasant gael brenin: ac fe a roddes Duw iddynt Saul mab Cis, gŵr o lwyth Benjamin, ddeugain mlynedd.
22. Ac wedi ei ddiswyddo ef, y cyfododd efe Dafydd yn frenin iddynt; am yr hwn y tystiolaethodd, ac y dywedodd, Cefais Dafydd mab Jesse, gŵr yn ôl fy nghalon, yr hwn a gyflawna fy holl ewyllys.
23. O had hwn, Duw, yn ôl ei addewid, a gyfododd i Israel yr Iachawdwr Iesu:
24. Gwedi i Ioan ragbregethu o flaen ei ddyfodiad ef i mewn, fedydd edifeirwch i holl bobl Israel.
25. Ac fel yr oedd Ioan yn cyflawni ei redfa, efe a ddywedodd, Pwy yr ydych chwi yn tybied fy mod i? Nid myfi yw efe: eithr wele, y mae un yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn nid wyf yn deilwng i ddatod esgidiau ei draed.
26. Ha wŷr frodyr, plant o genedl Abraham, a'r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw, i chwi y danfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon.
27. Canys y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem, a'u tywysogion, heb adnabod hwn, a lleferydd y proffwydi y rhai a ddarllenid bob Saboth, gan ei farnu ef, a'u cyflawnasant.
28. Ac er na chawsant ynddo ddim achos angau, hwy a ddymunasant ar Peilat ei ladd ef.
29. Ac wedi iddynt gwblhau pob peth a'r a ysgrifenasid amdano ef, hwy a'i disgynasant ef oddi ar y pren, ac a'i dodasant mewn bedd.
30. Eithr Duw a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw:
31. Yr hwn a welwyd dros ddyddiau lawer gan y rhai a ddaethant i fyny gydag ef o Galilea i Jerwsalem, y rhai sydd dystion iddo wrth y bobl.
32. Ac yr ydym ni yn efengylu i chwi yr addewid a wnaed i'r tadau, ddarfod i Dduw gyflawni hon i ni eu plant hwy, gan iddo atgyfodi'r Iesu:
33. Megis ag yr ysgrifennwyd yn yr ail Salm, Fy Mab i ydwyt ti; myfi heddiw a'th genhedlais.
34. Ac am iddo ei gyfodi ef o'r meirw, nid i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y dywedodd fel hyn, Rhoddaf i chwi sicr drugareddau Dafydd.
35. Ac am hynny y mae yn dywedyd mewn Salm arall, Ni adewi i'th Sanct weled llygredigaeth.
36. Canys Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth:
37. Eithr yr hwn a gyfododd Duw, ni welodd lygredigaeth.
38. Am hynny bydded hysbys i chwi, ha wŷr frodyr, mai trwy hwn yr ydys yn pregethu i chwi faddeuant pechodau:
39. A thrwy hwn y cyfiawnheir pob un sydd yn credu, oddi wrth yr holl bethau y rhai ni allech trwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnhau oddi wrthynt.
40. Gwyliwch gan hynny na ddêl arnoch y peth a ddywedwyd yn y proffwydi;
41. Edrychwch, O ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a diflennwch: canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau, gwaith ni chredwch ddim, er i neb ei ddangos i chwi.
42. A phan aeth yr Iddewon allan o'r synagog, y Cenhedloedd a atolygasant gael pregethu'r geiriau hyn iddynt y Saboth nesaf.
43. Ac wedi gollwng y gynulleidfa, llawer o'r Iddewon ac o'r proselytiaid crefyddol a ganlynasant Paul a Barnabas; y rhai gan lefaru wrthynt, a gyngorasant iddynt aros yng ngras Duw.
44. A'r Saboth nesaf, yr holl ddinas agos a ddaeth ynghyd i wrando gair Duw.
45. Eithr yr Iddewon, pan welsant y torfeydd, a lanwyd o genfigen, ac a ddywedasant yn erbyn y pethau a ddywedid gan Paul, gan wrthddywedyd a chablu.
46. Yna Paul a Barnabas a aethant yn hy, ac a ddywedasant, Rhaid oedd llefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf: eithr oherwydd eich bod yn ei wrthod, ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol, wele, yr ydym yn troi at y Cenhedloedd.
47. Canys felly y gorchmynnodd yr Arglwydd i ni, gan ddywedyd, Mi a'th osodais di yn oleuni i'r Cenhedloedd, i fod ohonot yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear.
48. A'r Cenhedloedd pan glywsant, a fu lawen ganddynt, ac a ogoneddasant air yr Arglwydd: a chynifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragwyddol, a gredasant.
49. A gair yr Arglwydd a daenwyd trwy'r holl wlad.
50. A'r Iddewon a anogasant y gwragedd crefyddol ac anrhydeddus, a phenaethiaid y ddinas, ac a godasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac a'u bwriasant hwy allan o'u terfynau.
51. Eithr hwy a ysgydwasant y llwch oddi wrth eu traed yn eu herbyn hwynt, ac a ddaethant i Iconium.
52. A'r disgyblion a gyflawnwyd o lawenydd, ac o'r Ysbryd Glân.