Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r apostolion a'r brodyr oedd yn Jwdea, a glywsant ddarfod i'r Cenhedloedd hefyd dderbyn gair Duw.

2. A phan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem, y rhai o'r enwaediad a ymrysonasant yn ei erbyn ef,

3. Gan ddywedyd, Ti a aethost i mewn at wŷr dienwaededig, ac a fwyteaist gyda hwynt.

4. Eithr Pedr a ddechreuodd, ac a eglurodd y peth iddynt mewn trefn, gan ddywedyd,

5. Yr oeddwn i yn ninas Jopa yn gweddïo; ac mewn llewyg y gwelais weledigaeth, Rhyw lestr megis llenlliain fawr yn disgyn, wedi ei gollwng o'r nef erbyn ei phedair congl; a hi a ddaeth hyd ataf fi.

6. Ar yr hon pan edrychais, yr ystyriais, ac mi a welais bedwarcarnolion y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y nef.

7. Ac mi a glywais lef yn dywedyd wrthyf, Cyfod, Pedr; lladd, a bwyta.

8. Ac mi a ddywedais, Nid felly, Arglwydd: canys dim cyffredin neu aflan nid aeth un amser i'm genau.

9. Eithr y llais a'm hatebodd i eilwaith o'r nef, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin.

10. A hyn a wnaed dair gwaith: a'r holl bethau a dynnwyd i fyny i'r nef drachefn.

11. Ac wele, yn y man yr oedd tri wŷr yn sefyll wrth y tŷ yr oeddwn ynddo, wedi eu hanfon o Cesarea ataf fi.

12. A'r Ysbryd a archodd i mi fyned gyda hwynt, heb amau dim. A'r chwe brodyr hyn a ddaethant gyda mi; a nyni a ddaethom i mewn i dŷ y gŵr.

13. Ac efe a fynegodd i ni pa fodd y gwelsai efe angel yn ei dŷ, yn sefyll ac yn dywedyd wrtho, Anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, a gyfenwir Pedr:

14. Yr hwn a lefara eiriau wrthyt, trwy y rhai y'th iacheir di a'th holl dŷ.

15. Ac a myfi yn dechrau llefaru, syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt, megis arnom ninnau yn y dechreuad.

16. Yna y cofiais air yr Arglwydd, y modd y dywedasai efe, Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr; eithr chwi a fedyddir â'r Ysbryd Glân.

17. Os rhoddes Duw gan hynny iddynt hwy gyffelyb rodd ag i ninnau, y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i, i allu lluddias Duw?

18. A phan glywsant y pethau hyn, distawu a wnaethant, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Fe roddes Duw, gan hynny i'r Cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd.

19. A'r rhai a wasgarasid oherwydd y blinder a godasai ynghylch Steffan, a dramwyasant hyd yn Phenice, a Cyprus, ac Antiochia, heb lefaru'r gair wrth neb ond wrth yr Iddewon yn unig.

20. A rhai ohonynt oedd wŷr o Cyprus ac o Cyrene, y rhai wedi dyfod i Antiochia, a lefarasant wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Iesu.

21. A llaw yr Arglwydd oedd gyda hwynt: a nifer mawr a gredodd, ac a drodd at yr Arglwydd.

22. A'r gair a ddaeth i glustiau yr eglwys oedd yn Jerwsalem am y pethau hyn: a hwy a anfonasant Barnabas i fyned hyd Antiochia.

23. Yr hwn pan ddaeth, a gweled gras Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyrfryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd.

24. Oblegid yr oedd efe yn ŵr da, ac yn llawn o'r Ysbryd Glân, ac o ffydd: a llawer o bobl a chwanegwyd i'r Arglwydd.

25. Yna yr aeth Barnabas i Darsus, i geisio Saul. Ac wedi iddo ei gael, efe a'i dug i Antiochia.

26. A bu iddynt flwyddyn gyfan ymgynnull yn yr eglwys, a dysgu pobl lawer; a bod galw y disgyblion yn Gristionogion yn gyntaf yn Antiochia.

27. Ac yn y dyddiau hynny daeth proffwydi o Jerwsalem i waered i Antiochia.

28. Ac un ohonynt, a'i enw Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocaodd trwy yr Ysbryd, y byddai newyn mawr dros yr holl fyd: yr hwn hefyd a fu dan Claudius Cesar.

29. Yna y disgyblion, bob un yn ôl ei allu, a fwriadasant anfon cymorth i'r brodyr oedd yn preswylio yn Jwdea:

30. Yr hyn beth hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid trwy law Barnabas a Saul.