Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y dywedodd yr archoffeiriad, A ydyw'r pethau hyn felly?

2. Yntau a ddywedodd, Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch: Duw y gogoniant a ymddangosodd i'n tad Abraham, pan oedd efe ym Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Charran;

3. Ac a ddywedodd wrtho, Dos allan o'th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth, a thyred i'r tir a ddangoswyf i ti.

4. Yna y daeth efe allan o dir y Caldeaid, ac y preswyliodd yn Charran: ac oddi yno, wedi marw ei dad, efe a'i symudodd ef i'r tir yma, yn yr hwn yr ydych chwi yn preswylio yr awr hon.

5. Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo, naddo led troed; ac efe a addawodd ei roddi iddo i'w feddiannu, ac i'w had ar ei ôl, pryd nad oedd plentyn iddo.

6. A Duw a lefarodd fel hyn; Dy had di a fydd ymdeithydd mewn gwlad ddieithr, a hwy a'i caethiwant ef, ac a'i drygant, bedwar can mlynedd.

7. Eithr y genedl yr hon a wasanaethant hwy, a farnaf fi, medd Duw: ac wedi hynny y deuant allan, ac a'm gwasanaethant i yn y lle hwn.

8. Ac efe a roddes iddo gyfamod yr enwaediad. Felly Abraham a genhedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd: ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd y deuddeg patriarch.

9. A'r patrieirch, gan genfigennu, a werthasant Joseff i'r Aifft: ond yr oedd Duw gydag ef,

10. Ac a'i hachubodd ef o'i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a'i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ.

11. Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan, a gorthrymder mawr; a'n tadau ni chawsant luniaeth.

12. Ond pan glybu Jacob fod ŷd yn yr Aifft, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf.

13. A'r ail waith yr adnabuwyd Joseff gan ei frodyr; a chenedl Joseff a aeth yn hysbys i Pharo.

14. Yna yr anfonodd Joseff, ac a gyrchodd ei dad Jacob, a'i holl genedl, pymtheg enaid a thrigain.

15. Felly yr aeth Jacob i waered i'r Aifft, ac a fu farw, efe a'n tadau hefyd.

16. A hwy a symudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem.

17. A phan nesaodd amser yr addewid, yr hwn a dyngasai Duw i Abraham, y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aifft,

18. Hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaenai mo Joseff.

19. Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, gan beri iddynt fwrw allan eu plant, fel nad epilient.

20. Ar yr hwn amser y ganwyd Moses; ac efe oedd dlws i Dduw, ac a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad.

21. Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharo a'i cyfododd ef i fyny, ac a'i magodd ef yn fab iddi ei hun.

22. A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd.

23. A phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed, daeth i'w galon ef ymweled â'i frodyr plant yr Israel.

24. A phan welodd efe un yn cael cam, efe a'i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro'r Eifftiwr.

25. Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt‐hwy ni ddeallasant.

26. A'r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a'u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â'ch gilydd?

27. Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â'i gymydog, a'i cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni?

28. A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe?

29. A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion.

30. Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Seina, angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth.

31. A Moses, pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg: a phan nesaodd i ystyried, daeth llef yr Arglwydd ato, gan ddywedyd,

32. Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses, wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiai ystyried.

33. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, Datod dy esgidiau oddi am dy draed; canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo sydd dir sanctaidd.

34. Gan weled y gwelais ddrygfyd fy mhobl y rhai sydd yn yr Aifft, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynnais i'w gwared hwy. Ac yn awr tyred, mi a'th anfonaf di i'r Aifft.

35. Y Moses yma, yr hwn a wrthodasant hwy, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr? hwn a anfonodd Duw yn llywydd ac yn waredwr, trwy law yr angel, yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth.

36. Hwn a'u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn nhir yr Aifft, ac yn y môr coch, ac yn y diffeithwch ddeugain mlynedd.

37. Hwn yw'r Moses a ddywedodd i feibion Israel, Proffwyd a gyfyd yr Arglwydd eich Duw i chwi o'ch brodyr fel myfi: arno ef y gwrandewch.

38. Hwn yw efe a fu yn yr eglwys yn y diffeithwch, gyda'r angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Seina, ac â'n tadau ni; yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol i'w rhoddi i ni.

39. Yr hwn ni fynnai ein tadau fod yn ufudd iddo, eithr cilgwthiasant ef, a throesant yn eu calonnau i'r Aifft,

40. Gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau i'n blaenori: oblegid y Moses yma, yr hwn a'n dug ni allan o dir yr Aifft, ni wyddom ni beth a ddigwyddodd iddo.

41. A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hynny, ac a offrymasant aberth i'r eilun, ac a ymlawenhasant yng ngweithredoedd eu dwylo eu hun.

42. Yna y trodd Duw, ac a'u rhoddes hwy i fyny i wasanaethu llu'r nef; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi, A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau ddeugain mlynedd yn yr anialwch, chwi tŷ Israel?

43. A chwi a gymerasoch babell Moloch, a seren eich duw Remffan, lluniau y rhai a wnaethoch i'w haddoli: minnau a'ch symudaf chwi tu hwnt i Fabilon.

44. Tabernacl y dystiolaeth oedd ymhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchmynasai yr hwn a ddywedai wrth Moses, am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsai.

45. Yr hwn a ddarfu i'n tadau ni ei gymryd, a'i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd;

46. Yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw, ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Jacob.

47. Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef.

48. Ond nid yw'r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo; fel y mae'r proffwyd yn dywedyd,

49. Y nef yw fy ngorseddfainc, a'r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu pa le fydd i'm gorffwysfa i?

50. Onid fy llaw i a wnaeth hyn oll?

51. Chwi rai gwargaled, a dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu'r Ysbryd Glân: megis eich tadau, felly chwithau.

52. Pa un o'r proffwydi ni ddarfu i'ch tadau chwi ei erlid? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn, i'r hwn yr awron y buoch chwi fradwyr a llofruddion:

53. Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith trwy drefniad angylion, ac nis cadwasoch.

54. A phan glywsant hwy'r pethau hyn, hwy a ffromasant yn eu calonnau, ac a ysgyrnygasant ddannedd arno.

55. Ac efe, yn gyflawn o'r Ysbryd Glân, a edrychodd yn ddyfal tua'r nef; ac a welodd ogoniant Duw, a'r Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw.

56. Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a welaf y nefoedd yn agored, a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw.

57. Yna y gwaeddasant â llef uchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno,

58. Ac a'i bwriasant allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiasant: a'r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul.

59. A hwy a labyddiasant Steffan, ac efe yn galw ar Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd.

60. Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.