1. Y traethawd cyntaf a wneuthum, O Theoffilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a'u dysgu,
2. Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny wedi iddo trwy'r Ysbryd Glân roddi gorchmynion i'r apostolion a etholasai:
3. I'r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef, trwy lawer o arwyddion sicr; gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw.
4. Ac wedi ymgynnull gyda hwynt, efe a orchmynnodd iddynt nad ymadawent o Jerwsalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn, eb efe, a glywsoch gennyf fi.
5. Oblegid Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir â'r Ysbryd Glân, cyn nemor o ddyddiau.
6. Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai'r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel?
7. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na'r prydiau, y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun.
8. Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear.
9. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt‐hwy yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fyny; a chwmwl a'i derbyniodd ef allan o'u golwg hwynt.
10. Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua'r nef, ac efe yn myned i fyny, wele, dau ŵr a safodd gerllaw iddynt mewn gwisg wen;
11. Y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilea, paham y sefwch yn edrych tua'r nef? yr Iesu hwn, yr hwn a gymerwyd i fyny oddi wrthych i'r nef, a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i'r nef.
12. Yna y troesant i Jerwsalem, o'r mynydd a elwir Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Jerwsalem, sef taith diwrnod Saboth.
13. Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fyny i oruwchystafell, lle yr oedd Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, Philip, a Thomas, Bartholomew, a Mathew, Iago mab Alffeus, a Simon Selotes, a Jwdas brawd Iago, yn aros.
14. Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gytûn mewn gweddi ac ymbil, gyda'r gwragedd, a Mair mam yr Iesu, a chyda'i frodyr ef.
15. Ac yn y dyddiau hynny Pedr a gyfododd i fyny yng nghanol y disgyblion, ac a ddywedodd, (a nifer yr enwau yn yr un man oedd ynghylch ugain a chant,)
16. Ha wŷr frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni'r ysgrythur yma a ragddywedodd yr Ysbryd Glân trwy enau Dafydd am Jwdas, yr hwn a fu flaenor i'r rhai a ddaliasant yr Iesu:
17. Canys efe a gyfrifwyd gyda ni, ac a gawsai ran o'r weinidogaeth hon.
18. A hwn a bwrcasodd faes â gwobr anwiredd; ac wedi ymgrogi, a dorrodd yn ei ganol, a'i holl ymysgaroedd ef a dywalltwyd allan.
19. A bu hysbys hyn i holl breswylwyr Jerwsalem, hyd oni elwir y maes hwnnw yn eu tafod priodol hwy, Aceldama, hynny yw, Maes y gwaed.
20. Canys ysgrifennwyd yn llyfr y Salmau, Bydded ei drigfan ef yn ddiffeithwch, ac na bydded a drigo ynddi: a chymered arall ei esgobaeth ef.
21. Am hynny y mae'n rhaid, o'r gwŷr a fu yn cydymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni,
22. Gan ddechrau o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddi wrthym ni, bod un o'r rhai hyn gyda ni yn dyst o'i atgyfodiad ef.
23. A hwy a osodasant ddau gerbron, Joseff, yr hwn a enwid Barsabas, ac a gyfenwid Jwstus, a Matheias.
24. A chan weddïo, hwy a ddywedasant, Tydi, Arglwydd, yr hwn a wyddost galonnau pawb, dangos pa un o'r ddau hyn a etholaist,
25. I dderbyn rhan o'r weinidogaeth hon, a'r apostoliaeth, o'r hon y cyfeiliornodd Jwdas, i fyned i'w le ei hun.
26. A hwy a fwriasant eu coelbrennau hwynt: ac ar Matheias y syrthiodd y coelbren; ac efe a gyfrifwyd gyda'r un apostol ar ddeg.