Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A phan gytunwyd forio ohonom ymaith i'r Ital, hwy a roesant Paul, a rhyw garcharorion eraill, at ganwriad a'i enw Jwlius, o fyddin Augustus.

2. Ac wedi dringo i long o Adramyttium, ar fedr hwylio i dueddau Asia, ni a aethom allan o'r porthladd; a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica.

3. A thrannoeth ni a ddygwyd i waered i Sidon. A Jwlius a ymddug yn garedigol tuag at Paul, ac a roddes iddo gennad i fyned at ei gyfeillion i gael ymgeledd.

4. Ac wedi myned oddi yno, ni a hwyliasom dan Cyprus, am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus.

5. Ac wedi hwylio ohonom dros y môr sydd gerllaw Cilicia a Phamffylia, ni a ddaethom i Myra, dinas yn Lycia.

6. Ac yno y canwriad, wedi cael llong o Alexandria yn hwylio i'r Ital, a'n gosododd ni ynddi.

7. Ac wedi i ni hwylio yn anniben lawer o ddyddiau, a dyfod yn brin ar gyfer Cnidus, am na adawai'r gwynt i ni, ni a hwyliasom islaw Creta, ar gyfer Salmone.

8. Ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddi, ni a ddaethom i ryw le a elwir, Y porthladdoedd prydferth, yr hwn yr oedd dinas Lasea yn agos iddo.

9. Ac wedi i dalm o amser fyned heibio, a bod morio weithian yn enbyd, oherwydd hefyd ddarfod yr ympryd weithian, Paul a gynghorodd,

10. Gan ddywedyd wrthynt, Ha wŷr, yr wyf yn gweled y bydd yr hynt hon ynghyd â sarhad a cholled fawr, nid yn unig am y llwyth a'r llong, eithr am ein heinioes ni hefyd.

11. Eithr y canwriad a gredodd i lywydd ac i berchen y llong, yn fwy nag i'r pethau a ddywedid gan Paul.

12. A chan fod y porthladd yn anghyfleus i aeafu, y rhan fwyaf a roesant gyngor i ymado oddi yno hefyd, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice, i aeafu yno; yr hwn sydd borthladd yn Creta, ar gyfer y deau‐orllewin, a'r gogledd‐orllewin.

13. A phan chwythodd y deheuwynt yn araf, hwynt‐hwy yn tybied cael eu meddwl, gan godi hwyliau, a foriasant heibio yn agos i Creta.

14. Ond cyn nemor cyfododd yn ei herbyn hi wynt tymhestlog, yr hwn a elwir Euroclydon.

15. A phan gipiwyd y llong, ac heb allu gwrthwynebu'r gwynt, ni a ymroesom, ac a ddygwyd gyda'r gwynt.

16. Ac wedi i ni redeg goris ynys fechan a elwir Clauda, braidd y gallasom gael y bad:

17. Yr hwn a godasant i fyny, ac a wnaethant gynorthwyon, gan wregysu'r llong oddi dani: a hwy yn ofni rhag syrthio ar sugndraeth, wedi gostwng yr hwyl, a ddygwyd felly.

18. A ni'n flin iawn arnom gan y dymestl, drannoeth hwy a ysgafnhasant y llong;

19. A'r trydydd dydd bwriasom â'n dwylo'n hunain daclau'r llong allan.

20. A phan nad oedd na haul na sêr yn ymddangos dros lawer o ddyddiau, a thymestl nid bychan yn pwyso arnom, pob gobaith y byddem cadwedig a ddygwyd oddi arnom o hynny allan.

21. Ac wedi bod hir ddirwest, yna y safodd Paul yn eu canol hwy, ac a ddywedodd, Ha wŷr, chwi a ddylasech wrando arnaf fi, a bod heb ymado o Creta, ac ennill y sarhad yma a'r golled.

22. Ac yr awron yr wyf yn eich cynghori chwi i fod yn gysurus: canys ni bydd colled am einioes un ohonoch, ond am y llong yn unig.

23. Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw, yr hwn a'm piau, a'r hwn yr wyf yn ei addoli,

24. Gan ddywedyd, Nac ofna, Paul; rhaid i ti sefyll gerbron Cesar: ac wele, rhoddes Duw i ti y rhai oll sydd yn morio gyda thi.

25. Am hynny, ha wŷr, cymerwch gysur: canys yr wyf fi yn credu i Dduw, mai felly y bydd, yn ôl y modd y dywedwyd i mi.

26. Ond mae yn rhaid ein bwrw ni i ryw ynys.

27. Ac wedi dyfod y bedwaredd nos ar ddeg, fe a ddigwyddodd, a ni yn morio yn Adria, ynghylch hanner nos, dybied o'r morwyr eu bod yn nesáu i ryw wlad;

28. Ac wedi iddynt blymio, hwy a'i cawsant yn ugain gwryd: ac wedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy a'i cawsant yn bymtheg gwryd.

29. Ac a hwy'n ofni rhag i ni syrthio ar leoedd geirwon, wedi iddynt fwrw pedair angor allan o'r llyw, hwy a ddeisyfasant ei myned hi yn ddydd.

30. Ac fel yr oedd y llongwyr yn ceisio ffoi allan o'r llong, ac wedi gollwng y bad i waered i'r môr, yn rhith bod ar fedr bwrw angorau o'r pen blaen i'r llong,

31. Dywedodd Paul wrth y canwriad a'r milwyr, Onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig.

32. Yna y torrodd y milwyr raffau'r bad, ac a adawsant iddo syrthio ymaith.

33. A thra ydoedd hi yn dyddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymryd lluniaeth, gan ddywedyd, Heddiw yw y pedwerydd dydd ar ddeg yr ydych chwi yn disgwyl, ac yn aros ar eich cythlwng, heb gymryd dim.

34. Oherwydd paham yr ydwyf yn dymuno arnoch gymryd lluniaeth; oblegid hyn sydd er iechyd i chwi: canys blewyn i'r un ohonoch ni syrth oddi ar ei ben.

35. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a gymerodd fara, ac a ddiolchodd i Dduw yn eu gŵydd hwynt oll, ac a'i torrodd, ac a ddechreuodd fwyta.

36. Ac yr oeddynt bawb wedi myned yn gysurol; a hwy a gymerasant luniaeth hefyd.

37. Ac yr oeddem yn y llong i gyd, yn ddau cant ac un ar bymtheg a thrigain o eneidiau.

38. Ac wedi eu digoni o luniaeth, hwy a ysgafnhasant y llong, gan fwrw'r gwenith allan i'r môr.

39. A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tir: ond hwy a ganfuant ryw gilfach a glan iddi; i'r hon y cyngorasant, os gallent, wthio'r llong iddi.

40. Ac wedi iddynt godi'r angorau, hwy a ymollyngasant i'r môr, ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a godasant yr hwyl i'r gwynt, ac a geisiasant y lan.

41. Ac wedi i ni syrthio ar le deuforgyfarfod, hwy a wthiasant y llong: a'r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddiysgog; eithr y pen ôl a ymddatododd gan nerth y tonnau.

42. A chyngor y milwyr oedd, ladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio allan, a dianc ymaith.

43. Ond y canwriad, yn ewyllysio cadw Paul, a rwystrodd iddynt eu hamcan; ac a archodd i bawb a'r a fedrai nofio, ymfwrw yn gyntaf i'r môr, a myned allan i'r tir:

44. Ac i'r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o'r llong. Ac felly y digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol.