Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pedr hefyd ac Ioan a aethant i fyny i'r deml ynghyd ar yr awr weddi, sef y nawfed.

2. A rhyw ŵr cloff o groth ei fam a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i'r deml.

3. Yr hwn, pan welodd efe Pedr ac Ioan ar fedr myned i mewn i'r deml, a ddeisyfodd gael elusen.

4. A Phedr yn dal sylw arno, gydag Ioan, a ddywedodd, Edrych arnom ni.

5. Ac efe a ddaliodd sylw arnynt, gan obeithio cael rhywbeth ganddynt.

6. Yna y dywedodd Pedr, Arian ac aur nid oes gennyf; eithr yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roddi i ti: Yn enw Iesu Grist o Nasareth, cyfod a rhodia.

7. A chan ei gymryd ef erbyn ei ddeheulaw, efe a'i cyfododd ef i fyny; ac yn ebrwydd ei draed ef a'i fferau a gadarnhawyd.

8. A chan neidio i fyny, efe a safodd, ac a rodiodd, ac a aeth gyda hwynt i'r deml, dan rodio, a neidio, a moli Duw.

9. A'r holl bobl a'i gwelodd ef yn rhodio, ac yn moli Duw.

10. Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod, mai hwn oedd yr un a eisteddai am elusen wrth borth Prydferth y deml: a hwy a lanwyd o fraw a synedigaeth am y peth a ddigwyddasai iddo.

11. Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn atal Pedr ac Ioan, yr holl bobl yn frawychus a gydredodd atynt i'r porth a elwir Porth Solomon.

12. A phan welodd Pedr, efe a atebodd i'r bobl, Ha wŷr Israeliaid, beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn? neu beth a wnewch chwi yn dal sylw arnom ni, fel pe trwy ein nerth ein hun neu ein duwioldeb y gwnaethem i hwn rodio?

13. Duw Abraham, ac Isaac, a Jacob, Duw ein tadau ni, a ogoneddodd ei Fab Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi, ac a'i gwadasoch gerbron Peilat, pan farnodd efe ef i'w ollwng yn rhydd.

14. Eithr chwi a wadasoch y Sanct a'r Cyfiawn, ac a ddeisyfasoch roddi i chwi ŵr llofruddiog;

15. A Thywysog y bywyd a laddasoch, yr hwn a gododd Duw o feirw; o'r hyn yr ydym ni yn dystion.

16. A'i enw ef, trwy ffydd yn ei enw ef, a nerthodd y dyn yma, a welwch ac a adwaenoch chwi: a'r ffydd yr hon sydd trwyddo ef, a roes iddo ef yr holl iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll.

17. Ac yn awr, frodyr, mi a wn mai trwy anwybod y gwnaethoch, megis y gwnaeth eich pendefigion chwi hefyd.

18. Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi, y dioddefai Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.

19. Edifarhewch gan hynny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, pan ddelo'r amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd;

20. Ac yr anfono efe Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd o'r blaen i chwi:

21. Yr hwn sydd raid i'r nef ei dderbyn, hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai a ddywedodd Duw trwy enau ei holl sanctaidd broffwydi erioed.

22. Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Broffwyd o'ch brodyr, megis myfi: arno ef y gwrandewch ym mhob peth a ddyweto wrthych.

23. A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Proffwyd hwnnw, a lwyr ddifethir o blith y bobl.

24. A'r holl broffwydi hefyd, o Samuel ac o'r rhai wedi, cynifer ag a lefarasant, a ragfynegasant hefyd am y dyddiau hyn.

25. Chwychwi ydych blant y proffwydi, a'r cyfamod yr hwn a wnaeth Duw â'n tadau ni, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau y ddaear.

26. Duw, gwedi cyfodi ei Fab Iesu a'i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi, trwy droi pob un ohonoch ymaith oddi wrth eich drygioni.