Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac ar ôl gostegu'r cythrwfl, Paul, wedi galw'r disgyblion ato, a'u cofleidio, a ymadawodd i fyned i Facedonia.

2. Ac wedi iddo fyned dros y parthau hynny, a'u cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, efe a ddaeth i dir Groeg.

3. Ac wedi aros dri mis, a gwneuthur o'r Iddewon gynllwyn iddo, fel yr oedd ar fedr morio i Syria, efe a arfaethodd ddychwelyd trwy Facedonia.

4. A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea; ac o'r Thesaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Derbe, a Timotheus; ac o'r Asiaid, Tychicus a Troffimus.

5. Y rhai hyn a aethant o'r blaen, ac a arosasant amdanom yn Nhroas.

6. A ninnau a fordwyasom ymaith oddi wrth Philipi, ar ôl dyddiau'r bara croyw, ac a ddaethom atynt hwy i Droas mewn pum niwrnod; lle yr arosasom saith niwrnod.

7. Ac ar y dydd cyntaf o'r wythnos, wedi i'r disgyblion ddyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ymresymodd â hwynt, ar fedr myned ymaith drannoeth; ac efe a barhaodd yn ymadrodd hyd hanner nos.

8. Ac yr oedd llawer o lampau yn y llofft lle yr oeddynt wedi ymgasglu.

9. A rhyw ŵr ieuanc, a'i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffenestr: ac efe a syrthiodd mewn trymgwsg, tra oedd Paul yn ymresymu yn hir, wedi ei orchfygu gan gwsg, ac a gwympodd i lawr o'r drydedd lofft; ac a gyfodwyd i fyny yn farw.

10. A Phaul a aeth i waered, ac a syrthiodd arno ef, a chan ei gofleidio, a ddywedodd, Na chyffroed arnoch: canys y mae ei enaid ynddo ef.

11. Ac wedi iddo ddyfod i fyny, a thorri bara, a bwyta, ac ymddiddan llawer hyd doriad y dydd; felly efe a aeth ymaith.

12. A hwy a ddygasant y llanc yn fyw, ac a gysurwyd yn ddirfawr.

13. Ond nyni a aethom o'r blaen i'r llong, ac a hwyliasom i Asos; ar fedr oddi yno dderbyn Paul: canys felly yr oedd efe wedi ordeinio, ar fedr myned ei hun ar ei draed.

14. A phan gyfarfu efe â ni yn Asos, nyni a'i derbyniasom ef i mewn, ac a ddaethom i Mitylene.

15. A morio a wnaethom oddi yno, a dyfod drannoeth gyferbyn â Chios; a thradwy y tiriasom yn Samos, ac a arosasom yn Trogylium; a'r ail dydd y daethom i Miletus.

16. Oblegid Paul a roddasai ei fryd ar hwylio heibio i Effesus, fel na byddai iddo dreulio amser yn Asia. Canys brysio yr oedd, os bai bosibl iddo, i fod yn Jerwsalem erbyn dydd y Sulgwyn.

17. Ac o Miletus efe a anfonodd i Effesus, ac a alwodd ato henuriaid yr eglwys.

18. A phan ddaethant ato, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch, er y dydd cyntaf y deuthum i Asia, pa fodd y bûm i gyda chwi dros yr holl amser;

19. Yn gwasanaethu'r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau, a phrofedigaethau, y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon:

20. Y modd nad ateliais ddim o'r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi, a'ch dysgu ar gyhoedd, ac o dŷ i dŷ;

21. Gan dystiolaethu i'r Iddewon, ac i'r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tuag at Dduw, a'r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist.

22. Ac yn awr, wele fi yn rhwym yn yr ysbryd yn myned i Jerwsalem, heb wybod y pethau a ddigwydd imi yno:

23. Eithr bod yr Ysbryd Glân yn tystio i mi ym mhob dinas, gan ddywedyd, fod rhwymau a blinderau yn fy aros.

24. Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennyf fy einioes fy hun, os gallaf orffen fy ngyrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw.

25. Ac yr awron, wele, mi a wn na chewch chwi oll, ymysg y rhai y bûm i yn tramwy yn pregethu teyrnas Dduw, weled fy wyneb i mwyach.

26. Oherwydd paham yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddiw, fy mod i yn lân oddi wrth waed pawb oll:

27. Canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw.

28. Edrychwch gan hynny arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn olygwyr, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â'i briod waed.

29. Canys myfi a wn hyn, y daw, ar ôl fy ymadawiad i, fleiddiau blinion i'ch plith, heb arbed y praidd.

30. Ac ohonoch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gŵyrdraws, i dynnu disgyblion ar eu hôl.

31. Am hynny gwyliwch, a chofiwch, dros dair blynedd na pheidiais i nos a dydd â rhybuddio pob un ohonoch â dagrau.

32. Ac yr awron, frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras ef, yr hwn a all adeiladu ychwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.

33. Arian, neu aur, neu wisg neb, ni chwenychais:

34. Ie, chwi a wyddoch eich hunain, ddarfod i'r dwylo hyn wasanaethu i'm cyfreidiau i, ac i'r rhai oedd gyda mi.

35. Mi a ddangosais i chwi bob peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo'r gweiniaid; a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, ddywedyd ohono ef, mai Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn.

36. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a roddodd ei liniau i lawr, ac a weddïodd gyda hwynt oll.

37. Ac wylo yn dost a wnaeth pawb: a hwy a syrthiasant ar wddf Paul, ac a'i cusanasant ef;

38. Gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai efe, na chaent weled ei wyneb ef mwy. A hwy a'i hebryngasant ef i'r llong.