Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid, a blaenor y deml, a'r Sadwceaid, a ddaethant arnynt hwy;

2. Yn flin ganddynt am eu bod hwy yn dysgu'r bobl, ac yn pregethu trwy'r Iesu yr atgyfodiad o feirw.

3. A hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy, ac a'u dodasant mewn dalfa hyd drannoeth: canys yr oedd hi yn awr yn hwyr.

4. Eithr llawer o'r rhai a glywsant y gair a gredasant: a rhifedi'r gwŷr a wnaed ynghylch pum mil.

5. A digwyddodd drannoeth ddarfod i'w llywodraethwyr hwy, a'r henuriaid, a'r ysgrifenyddion, ymgynnull i Jerwsalem,

6. Ac Annas yr archoffeiriad, a Chaiaffas, ac Ioan, ac Alexander, a chymaint ag oedd o genedl yr archoffeiriad.

7. Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a ofynasant, Trwy ba awdurdod, neu ym mha enw, y gwnaethoch chwi hyn?

8. Yna Pedr, yn gyflawn o'r Ysbryd Glân, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi benaethiaid y bobl, a henuriaid Israel,

9. Od ydys yn ein holi ni heddiw am y weithred dda i'r dyn claf, sef pa wedd yr iachawyd ef;

10. Bydded hysbys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi.

11. Hwn yw'r maen a lyswyd gennych chwi'r adeiladwyr, yr hwn a wnaed yn ben i'r gongl.

12. Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.

13. A phan welsant hyfder Pedr ac Ioan, a deall mai gwŷr anllythrennog ac annysgedig oeddynt, hwy a ryfeddasant; a hwy a'u hadwaenent, eu bod hwy gyda'r Iesu.

14. Ac wrth weled y dyn a iachasid yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim i'w ddywedyd yn erbyn hynny.

15. Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned allan o'r gynghorfa, hwy a ymgyngorasant â'i gilydd,

16. Gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i'r dynion hyn? canys yn ddiau arwydd hynod a wnaed trwyddynt hwy, hysbys i bawb a'r sydd yn preswylio yn Jerwsalem, ac nis gallwn ni ei wadu.

17. Eithr fel nas taener ymhellach ymhlith y bobl, gan fygwth bygythiwn hwy, na lefaront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn.

18. A hwy a'u galwasant hwynt, ac a orchmynasant iddynt nad ynganent ddim, ac na ddysgent yn enw yr Iesu.

19. Eithr Pedr ac Ioan a atebasant iddynt, ac a ddywedasant, Ai cyfiawn yw gerbron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch chwi.

20. Canys ni allwn ni na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom.

21. Eithr wedi eu bygwth ymhellach, hwy a'u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael dim i'w cosbi hwynt, oblegid y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid.

22. Canys yr oedd y dyn uwchlaw deugain oed, ar yr hwn y gwnaethid yr arwydd hwn o iechydwriaeth.

23. A hwythau, wedi eu gollwng ymaith, a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasai'r archoffeiriaid a'r henuriaid wrthynt.

24. Hwythau pan glywsant, o un fryd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddywedasant, O Arglwydd, tydi yw'r Duw yr hwn a wnaethost y nef, a'r ddaear, a'r môr, ac oll sydd ynddynt;

25. Yr hwn trwy'r Ysbryd Glân, yng ngenau dy was Dafydd, a ddywedaist, Paham y terfysgodd y cenhedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer?

26. Brenhinoedd y ddaear a safasant i fyny, a'r llywodraethwyr a ymgasglasant ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef.

27. Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon yr ymgynullodd yn erbyn dy Sanct Fab Iesu, yr hwn a eneiniaist ti, Herod a Phontius Peilat, gyda'r Cenhedloedd, a phobl Israel,

28. I wneuthur pa bethau bynnag a ragluniodd dy law a'th gyngor di eu gwneuthur.

29. Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a chaniatâ i'th weision draethu dy air di gyda phob hyfder;

30. Trwy estyn ohonot dy law i iacháu, ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Fab Iesu.

31. Ac wedi iddynt weddïo, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo; a hwy a lanwyd oll o'r Ysbryd Glân, a hwy a lefarasant air Duw yn hyderus.

32. A lliaws y rhai a gredasant oedd o un galon, ac un enaid; ac ni ddywedodd neb ohonynt fod dim a'r a feddai yn eiddo ei hunan, eithr yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin.

33. A'r apostolion trwy nerth mawr a roddasant dystiolaeth o atgyfodiad yr Arglwydd Iesu: a gras mawr oedd arnynt hwy oll.

34. Canys nid oedd un anghenus yn eu plith hwy: oblegid cynifer ag oedd berchen tiroedd neu dai, a'u gwerthasant, ac a ddygasant werth y pethau a werthasid,

35. Ac a'u gosodasant wrth draed yr apostolion: a rhannwyd i bob un megis yr oedd yr angen arno.

36. A Joseff, yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion (yr hyn o'i gyfieithu yw, Mab diddanwch,) yn Lefiad, ac yn Gypriad o genedl,

37. A thir ganddo, a'i gwerthodd, ac a ddug yr arian, ac a'i gosododd wrth draed yr apostolion.