2 Macabeaid 9:21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
A'm gobaith yn y nef, yr wyf yn galw i gof yn serchog eich parch a'ch ewyllys da. Pan oeddwn yn dychwelyd o barthau Persia, daeth gwaeledd beichus arnaf, a bernais mai rhaid oedd ystyried diogelwch cyffredinol pawb.