Yna aethant i'r afael â byddinoedd Timotheus a Bacchides. Lladdasant fwy nag ugain mil ohonynt ac ennill meddiant llwyr ar rai caerau uchel. Yr oedd yr anrhaith yn helaeth, a rhanasant ef yn gyfartal rhyngddynt hwy eu hunain, y rheini oedd wedi cael eu cam-drin, y plant amddifad a'r gweddwon, a'r hynafgwyr hefyd.