1. Dyma Job yn dweud wrth yr ARGLWYDD:
2. “Dw i'n gwybod dy fod ti'n gallu gwneud unrhyw beth;does dim modd rhwystro dy gynlluniau di.
3. ‘Pwy ydy hwn sy'n amau fy nghynllun i,ac yn deall dim?’ meddet ti.Ti'n iawn, dw i wedi siarad am bethau doeddwn i ddim yn eu deall;pethau oedd y tu hwnt i mi, pethau allwn i mo'u dirnad nhw.
4. ‘Gwranda arna i, a gwna i siarad;Gofynna i gwestiynau, a gei di ateb,’ meddet ti.
5. O'r blaen, wedi clywed amdanat ti oeddwn i,ond nawr dw i wedi dy weld drosof fy hun.
6. Felly, dw i'n tynnu'r cwbl yn ôl,ac yn edifarhau mewn llwch a lludw.”
7. Ar ôl i'r ARGLWYDD siarad â Job, dyma fe'n dweud wrth Eliffas o Teman, “Dw i'n ddig iawn gyda ti a dy ddau ffrind, am beidio dweud beth sy'n wir amdana i, yn wahanol i fy ngwas Job.
8. Felly cymerwch saith tarw a saith hwrdd a mynd at fy ngwas Job ac offrymu aberth i'w losgi drosoch eich hunain. Bydd fy ngwas Job yn gweddïo drosoch chi, a bydda i'n gwrando arno. Felly fydda i ddim yn delio gyda chi fel dych chi'n haeddu am beidio dweud beth sy'n wir amdana i, yn wahanol i fy ngwas Job.”
9. Felly dyma Eliffas o Teman, Bildad o Shwach a Soffar o Naäma yn mynd a gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrthyn nhw, a dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Job.
10. Ar ôl i Job weddïo dros ei ffrindiau, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi yn ôl iddo y cwbl oedd wedi ei golli – yn wir rhoddodd yr ARGLWYDD iddo ddwywaith cymaint ag o'r blaen.
11. Daeth ei frodyr a'i chwiorydd, a'i hen ffrindiau i gyd, i'w dŷ am bryd o fwyd, ac i gydymdeimlo gydag e a'i gysuro am yr holl drasiedïau oedd yr ARGLWYDD wedi eu dwyn arno. Rhoddodd pob un ohonyn nhw arian a modrwy aur iddo.
12. Dyma'r ARGLWYDD yn bendithio Job fwy yn y blynyddoedd ar ôl hynny nag roedd wedi gwneud yn y blynyddoedd blaenorol. Roedd ganddo un deg pedair mil o ddefaid, chwe mil o gamelod, mil o barau o ychen, a mil o asennod.
13. Hefyd cafodd saith mab a thair merch.
14. Enw'r ferch hynaf oedd Jemima, Cetsia oedd enw'r ail, a Ceren-hapwch oedd y drydedd.
15. Doedd dim merched harddach i'w cael yn unman, a rhoddodd Job etifeddiaeth iddyn nhw fel i'w brodyr.
16. Cafodd Job fyw am gant pedwar deg o flynyddoedd ar ôl hynny, a gwelodd bedair cenhedlaeth o'i ddisgynyddion.
17. Felly, roedd Job yn hen ŵr mewn oedran mawr pan fuodd e farw.