1. A dyma Bildad o Shwach yn ymateb:
2. “Mae gan Dduw awdurdod a gallu dychrynllyd,ac mae'n sefydlu heddwch yn y nefoedd uchod.
3. A ellir cyfrif ei fyddinoedd?Ydy ei olau e ddim yn disgleirio ar bawb?
4. Sut all person dynol fod yn iawn gyda Duw?Sut all un sydd wedi ei eni o wraig fod yn lân?
5. Os nad ydy'r lleuad yn ddisglair,na'r sêr yn lân yn ei olwg,
6. pa obaith sydd i berson dynol, sydd fel pryfyn,creadur meidrol, sy'n ddim ond pryf genwair?”