Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 22 beibl.net 2015 (BNET)

Y trydydd cylch o ddadleuon

Ymateb Eliffas: Mae Job yn ddyn drwg iawn

1. A dyma Eliffas o Teman yn ymateb:

2. “All person dynol fod o unrhyw help i Dduw?Ydy dyn doeth o unrhyw fudd iddo?

3. Ydy'r Un sy'n rheoli popeth ar ei ennill os wyt ti'n ddieuog?Oes mantais iddo dy fod ti'n byw yn iawn?

4. Ydy e'n dy alw i gyfri am dy fod wedi byw'n dduwiol?Ai dyna pam mae e'n dy farnu di?

5. Na, mae'n rhaid dy fod wedi gwneud drwg,ac wedi pechu'n ddiddiwedd!

6. Wedi cymryd gwystl oddi ar bobl heb achos,a'u gadael nhw yn noeth, heb ddillad.

7. Wnest ti ddim rhoi dŵr i'r sychedig ei yfed,na bara i'w fwyta i bobl oedd yn newynu.

8. Roeddet ti'n ddyn pwerus, yn berchen tirac yn byw arno, ac mor freintiedig;

9. ond yn troi gweddwon i ffwrdd heb ddim,ac yn dwyn eu hawliau oddi ar blant amddifad.

10. Dyna pam rwyt ti wedi dy ddal yn y picil yma,ac yn sydyn yn cael dy hun mewn panig.

11. Mae hi mor dywyll arnat ti, alli di weld dim,ac mae'r llifogydd ar fin dy foddi di!

12. Ydy Duw ddim yn y nefoedd uchod?Edrych ar y sêr pellaf sy mor uchel!

13. Ond rwyt ti'n dweud, ‘Beth mae Duw'n ei wybod?Ydy e'n gallu barnu drwy'r cymylau duon?

14. Dydy e ddim yn gweld, am fod cymylau yn ei guddiowrth iddo gerdded o gwmpas yn entrychion y nefoedd!’

15. Wyt ti am ddilyn yr un hen ffordd dywyllmae pobl annuwiol wedi ei cherdded? –

16. Cawson nhw eu cipio i ffwrdd o flaen eu hamser,pan lifodd y dilyw dros eu sylfeini.

17. Roedden nhw'n dweud wrth Dduw, ‘Gad lonydd i ni!’a ‘Beth mae'r Un sy'n rheoli popeth yn gallu ei wneud i ni?’

18. Ac eto Duw oedd yn llenwi eu tai â phethau da! –Dydy ffordd pobl ddrwg o feddwl yn gwneud dim sens i mi!

19. Mae'r rhai cyfiawn yn gweld eu dinistr, ac yn llawen;mae'r diniwed yn eu gwawdio nhw.

20. ‘Mae'r rhai cas wedi eu dinistrio,a'u cyfoeth wedi ei losgi gan dân.’

21. Ildia dy hun i Dduw, i ti brofi ei heddwch,wedyn bydd pethau da yn digwydd i ti.

22. Derbyn beth mae e'n ceisio'i ddysgu i ti,a thrysora ei neges yn dy galon.

23. Os gwnei di droi nôl at yr Un sy'n rheoli popeth, cei dy adfer.Os gwnei di stopio ymddwyn yn anghyfiawn.

24. Os gwnei di drin dy aur fel petai'n ddim ond pridd;aur pur Offir yn ddim gwell na cherrig mewn nant,

25. yna yr Un sy'n rheoli popeth fydd dy aur di,fe fydd fel arian gwerthfawr.

26. Bydd yr Un sy'n rheoli popeth yn dy wefreiddio,a byddi'n gallu edrych eto ar Dduw.

27. Byddi'n gweddïo arno, a bydd e'n gwrando arnat ti,a byddi'n cadw dy addewidion iddo.

28. Pan fyddi'n penderfynu gwneud rhywbeth, byddi'n llwyddo,a bydd golau yn disgleirio ar dy ffyrdd.

29. Pan fydd pobl mewn trafferthion, byddi'n galw ‘Helpa nhw!’a bydd Duw yn achub y digalon.