1. Mae'r un sy'n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwgwedi ei fendithio'n fawr;yr un sydd ddim yn cadw cwmni pechaduriaid,nac yn eistedd gyda'r rhaisy'n gwneud dim byd ond dilorni pobl eraill;
2. yr un sydd wrth ei foddyn gwneud beth mae'r ARGLWYDD eisiau,ac yn myfyrio ar y pethau mae'n eu dysgu ddydd a nos.
3. Bydd fel coeden wedi ei phlannu wrth ffrydiau o ddŵr,yn dwyn ffrwyth yn ei thymor,a'i dail byth yn gwywo.Beth bynnag mae'n ei wneud, bydd yn llwyddo.
4. Ond fydd hi ddim felly ar y rhai drwg!Byddan nhw fel usyn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt.
5. Fydd y rhai drwg ddim yn gallu gwrthsefyll y farn.Fydd pechaduriaid ddim yn cael sefyllgyda'r dyrfa o rai cyfiawn.
6. Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am y rhai sy'n ei ddilyn,ond bydd y rhai drwg yn cael eu difa.