Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 23 beibl.net 2015 (BNET)

Job yn ymateb: Ble mae Duw?

1. Dyma Job yn ateb:

2. “Dw i am gwyno yn ei erbyn eto heddiw;mae e'n dal i'm cosbi er fy mod i'n griddfan.

3. O na fyddwn i'n gwybod ble i ddod o hyd iddo,a sut i gyrraedd ei orsedd, lle mae'n barnu!

4. Byddwn yn gosod fy achos ger ei fronac yn cyflwyno llond ceg o ddadleuon iddo.

5. Byddwn i'n gweld wedyn sut byddai'n fy ateb ia dechrau deall beth mae'n ddweud wrtho i.

6. Fyddai e'n fy sathru trwy ddadlau yn fy erbyn?Na, byddai'n rhoi gwrandawiad teg i mi.

7. Yno gall dyn gonest gyflwyno ei achos o'i flaen.Byddai fy marnwr yn fy nghael yn ddieuog am byth!

8. Dw i'n edrych i'r dwyrain, a dydy e ddim yno;i'r gorllewin, ond dw i'n dal ddim yn ei weld.

9. Edrych i'r gogledd, a methu dod o hyd iddo;I'r de, ond does dim sôn amdano.

10. Ond mae e'n gwybod popeth amdana i;wedi iddo fy mhrofi, bydda i'n dod allan fel aur pur.

11. Dw i wedi ei ddilyn yn ffyddlon,ac wedi cadw ei ffyrdd heb wyro.

12. Dw i ddim wedi tynnu'n groes i'w orchmynion;a dw i wedi trysori ei eiriau'n fwy na dim byd.

13. Fe ydy'r unig Un; pwy all newid ei feddwl?Mae'n gwneud beth bynnag mae e eisiau.

14. Bydd yn cyflawni ei gynllun ar fy nghyfer i,fel llawer o gynlluniau eraill sydd ganddo.

15. Dyna pam dw i wedi dychryn o'i flaen;Mae meddwl am y peth yn codi ofn arna i.

16. Mae Duw wedi gwneud i mi anobeithio;mae'r Un sy'n rheoli popeth yn codi arswyd arna i!

17. Ond er gwaetha'r tywyllwch, dw i ddim wedi tewi –y tywyllwch dudew ddaeth drosta i.