Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 16 beibl.net 2015 (BNET)

Job yn ymateb: Cysurwyr gwael!

1. Dyma Job yn ateb:

2. “Dw i wedi clywed hyn i gyd o'r blaen;Dych chi i gyd yn gysurwyr gwael!

3. Oes dim diwedd i'r malu awyr yma?Beth sy'n dy gorddi di fod rhaid i ti gael y gair olaf?

4. Gallwn innau siarad â chi yr un fathpetaech chi yn fy lle i.Gallwn i eich drysu chi â geiriau diddiwedd,ac ysgwyd fy mhen arnoch chi.

5. Ond eich calonogi chi fyddwn i'n wneud;eich cysuro chi, a lleddfu'r boen.

6. Ond alla i ddweud dim i leddfu fy mhoen fy hun;ac os ydw i'n cadw'n dawel dydy'r boen ddim llai.

7. Y ffaith ydy, mae Duw wedi fy llwyr ymlâdd!Mae e wedi dinistrio fy nheulu.

8. Dw i'n crebachu yn ei law –dw i'n ddim ond croen ac esgyrnac mae hynny'n tystio yn fy erbyn i.

9. Mae e'n ddig, ac wedi fy rhwygo'n ddarnau;ac mae'n ysgyrnygu ei ddannedd arna i.Mae'n rhythu fel gelyn,

10. ac mae pobl yn chwerthinac yn gwneud sbort ar fy mhen.Maen nhw'n rhoi slap sarhaus i mi,ac yn uno gyda'i gilydd yn fy erbyn.

11. Mae Duw wedi fy ngadael i'r annuwiol,ac wedi fy nhaflu i ddwylo dynion drwg.

12. Roedd bywyd yn ddibryder, ond chwalodd y cwbl;gafaelodd yn fy ngwar a'm malu'n ddarnau mân.Mae wedi fy newis fel targed,

13. ac mae ei saethwyr o'm cwmpas.Mae wedi trywanu fy mherfedd yn ddidrugaredd,ac mae fy ngwaed wedi ei dywallt ar lawr.

14. Dw i fel wal mae'n torri trwyddi dro ar ôl tro,ac mae e'n rhuthro yn fy erbyn fel rhyfelwr.

15. Mae sachliain yn sownd i'm croen;a chladdwyd pob nerth oedd gen i yn y llwch.

16. Ar ôl wylo'n chwerw mae fy wyneb yn goch,ac mae cysgodion tywyll dan fy llygaid.

17. Ond dw i ddim wedi gwneud niwed i neb,ac mae fy ngweddïau'n ddidwyll.

18. Ddaear, paid gorchuddio fy ngwaed!Paid gadael i'm protest fynd o'r golwg!

19. Hyd yn oed nawr, mae gen i dyst yn y nefoedd;mae Un all sefyll gyda mi yn yr uchelder!

20. Ond mae fy ffrindiau'n fy nirmygu,tra dw i'n wylo dagrau o flaen Duw.

21. O na fyddai e'n dadlau achos creadur meidrol,fel rhywun yn amddiffyn ei ffrind.

22. Does gen i ddim llawer o flynyddoedd i fyndcyn y bydda i'n cerdded y llwybr di-droi-nôl.