Dyma'r ARGLWYDD yn bendithio Job fwy yn y blynyddoedd ar ôl hynny nag roedd wedi gwneud yn y blynyddoedd blaenorol. Roedd ganddo un deg pedair mil o ddefaid, chwe mil o gamelod, mil o barau o ychen, a mil o asennod.