Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 18 beibl.net 2015 (BNET)

Ymateb Bildad: Pobl ddrwg mae Duw'n eu cosbi

1. A dyma Bildad o Shwach yn ymateb:

2. “Pryd wyt ti'n mynd i stopio siarad fel yma?Meddylia am funud, i ni gael cyfle i drafod.

3. Pam wyt ti'n ein trin ni fel anifeiliaid direswm,ac yn ein hystyried ni'n dwp?

4. Cei rwygo dy hun yn ddarnau yn dy wylltineb,ond a fydd trefn pethau yn cael ei newid er dy fwyn di?Fydd y creigiau yn cael eu symud o'u lle?

5. Na, mae golau'r rhai drwg yn cael ei ddiffodd;fydd ei fflam e ddim yn ail gynnau.

6. Mae'r golau yn ei babell yn gwanhau;a'r lamp uwch ei ben yn diffodd.

7. Bydd ei gamau hyderus yn troi'n betrus;a'i gynlluniau ei hun yn ei faglu.

8. Mae'n cerdded yn syth i'r rhwyd,ac yn camu ar y fagl.

9. Mae ei droed yn cael ei dal mewn trap,a'r fagl yn tynhau amdani.

10. Mae rhaff wedi ei chuddio ar y ddaear i'w ddal;mae magl ar ei lwybr.

11. Mae'n cael ei ddychryn o bob cyfeiriad,ac mae ofnau'n ei ddilyn i bobman.

12. Mae trychineb yn ysu amdano;a dinistr yn disgwyl iddo lithro.

13. Mae ei groen yn cael ei fwyta gan afiechyd,a'i gorff yn dioddef y farwolaeth fwya erchyll.

14. Mae'n cael ei lusgo allan o'i babell ddiogel,a'i alw i ymddangos o flaen brenin braw.

15. Mae tân yn byw yn ei babell,a brwmstan yn cael ei chwalu dros ei gartre.

16. Mae ei wreiddiau yn crino oddi tano,a'i ganghennau'n gwywo uwch ei ben.

17. Mae pawb drwy'r wlad wedi anghofio amdano;does dim sôn am ei enw yn unman.

18. Mae'n cael ei wthio o'r golau i'r tywyllwch,a'i yrru i ffwrdd o'r byd.

19. Heb blant na pherthnasau i'w enw,a neb ar ôl lle roedd yn byw.

20. Bydd pobl y gorllewin yn synnu at ei dynged,a phobl y dwyrain wedi dychryn yn lân.