Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 8 beibl.net 2015 (BNET)

Ymateb Bildad: Dylai Job droi at Dduw

1. Dyma Bildad o Shwach yn ymateb:

2. “Am faint wyt ti'n mynd i ddal ati i siarad fel yma?Mae dy eiriau'n wyllt fel gwynt stormus!

3. Ydy Duw yn gwyrdroi cyfiawnder?Ydy'r Un sy'n rheoli popeth yn ystumio beth sy'n iawn?

4. Roedd dy feibion wedi pechu yn ei erbyn,ac mae e wedi gadael iddyn nhw wynebu canlyniadau eu gwrthryfel.

5. Ond os gwnei di droi at Dduwa gofyn i'r Duw sy'n rheoli popeth dy helpu,

6. os wyt ti'n ddi-fai ac yn byw yn iawn,bydd e'n dy amddiffyn di,ac yn dy adfer i dy gyflwr cyfiawn.

7. Er bod dy ddechrau'n fach,bydd dy lwyddiant yn fawr i'r dyfodol.

8. Gofyn i'r genhedlaeth sydd wedi mynd heibio,meddylia am yr hyn wnaeth pobl ddarganfod ers talwm.

9. (Achos dim ond yn ddiweddar y daethon ni i'r golwg, a dŷn ni'n gwybod dim;a dydy'n dyddiau ni ar y ddaear yn ddim ond cysgod.)

10. Byddan nhw'n siŵr o dy ddysgu,ac esbonio beth wnaethon nhw ei ddeall.

11. Ydy papurfrwyn yn gallu tyfu heb gors?Ydy brwyn yn gallu tyfu heb ddŵr?

12. Wrth ddechrau tyfu, cyn bod yn barod i'w torri,bydden nhw'n gwywo'n gynt na'r glaswellt.

13. Dyna sy'n digwydd i'r rhai sy'n anghofio Duw;mae gobaith yr annuwiol yn diflannu –

14. mae fel gafael mewn edau frau,neu bwyso ar we pry cop.

15. Mae'n pwyso arno ac yn syrthio;mae'n gafael ynddo i godi, ond yn methu.

16. Dan wenau'r haul mae'n blanhigyn iachwedi ei ddyfrio, a'i frigau'n lledu drwy'r ardd.

17. Mae ei wreiddiau'n lapio am bentwr o gerrig,ac yn edrych am le rhwng y meini.

18. Ond pan mae'n cael ei godi a'i ddiwreiddio,bydd yr ardd lle roedd yn tyfu yn dweud‘Dw i erioed wedi dy weld di.’

19. Dyna fydd ei ddiwedd hapus!A bydd planhigion eraill yn tyfu yn ei le.

20. Edrych! Dydy Duw ddim yn gwrthod pobl onest,nac yn helpu pobl ddrwg!

21. Bydd yn gwneud i ti chwerthin unwaith eto,a byddi'n gweiddi'n llawen!

22. Bydd dy elynion yn cael eu cywilyddio,a bydd pebyll pobl ddrwg yn diflannu.”