1. A dyma Eliffas o Teman yn ymateb:
2. “Wnei di faddau i mi os gwna i fentro dweud gair?Mae'n anodd peidio dweud rhywbeth!
3. Meddylia gymaint o bobl wnest ti eu dysgu,a'r holl rai gwan wnest ti eu hannog a'u helpu.
4. Roedd dy eiriau yn cynnal y rhai oedd yn baglu,ac yn cryfhau'r rhai oedd yn simsanu.
5. Ond nawr, mae wedi digwydd i ti,a fedri di ddim godde'r peth;mae drwg wedi dy daro,a dyma ti yn anobeithio!
6. Ydy dy grefydd ddim yn dy gynnal?Ydy dy fywyd da ddim yn rhoi gobaith i ti?
7. Meddylia am eiliad, gafodd rhywun dieuog ei ddifa erioed?Ble cafodd y rhai sy'n byw'n iawn eu difa'n llwyr?
8. Fel yma dw i'n ei gweld hi: Y rhai sy'n aredig drygioniac yn hau helynt sy'n medi cynhaeaf hynny!
9. Mae Duw yn chwythu arnyn nhw,ac maen nhw'n cael eu difa;maen nhw'n diflannu gydag anadl ei ffroenau.
10. Maen nhw fel y llew yn rhuo, a'i rai bach yn cwyno,pan mae dannedd y llewod ifanc wedi eu torri.
11. Heb ysglyfaeth mae'r llew cryf yn marw,a chenawon y llewes yn mynd ar wasgar.
12. Ces neges yn dawel o'r dirgel,dim ond sibrydiad bach a glywais.
13. Yng nghanol breuddwydion dryslyd y nos,pan mae pobl yn cysgu'n drwm.
14. Ro'n i wedi dychryn, ac yn crynu trwof;roedd fel ias drwy fy esgyrn i gyd!
15. Teimlais awel yn pasio heibio i'm hwyneb,a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll.
16. Roedd siâp rhywun yn sefyll o'm blaen,ond doeddwn i ddim yn ei nabod.Tawelwch, ac yna clywais ei lais yn sibrwd:
17. ‘Ydy person dynol yn fwy cyfiawn na Duw?Ydy pobl yn fwy pur na'r Un wnaeth nhw?
18. Os ydy Duw ddim yn trystio ei weision,ac yn cyhuddo ei angylion o fod yn ffôl,
19. pa obaith sydd i'r rhai sy'n byw mewn corff o bridd,ac yn tarddu o'r llwch –y rhai y gellir eu gwasgu fel gwyfyn!
20. Gallan nhw gael eu sathru'n farw,unrhyw bryd rhwng gwawr a machlud,a'u difa'n llwyr am byth, heb neb yn cymryd sylw.
21. Mae rhaffau eu pebyll daearol yn cael eu codi,ac maen nhw'n marw mewn anwybodaeth.’