Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Casglodd Moses hefyd holl gynulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt, Dyma'r pethau a orchmynnodd yr Arglwydd eu gwneuthur.

2. Chwe diwrnod y gwneir gwaith; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd sanctaidd, Saboth gorffwys i'r Arglwydd: llwyr rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno.

3. Na chyneuwch dân yn eich holl anheddau ar y dydd Saboth.

4. A Moses a lefarodd wrth holl gynulleidfa meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r peth a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd,

5. Cymerwch o'ch plith offrwm yr Arglwydd: pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn offrwm i'r Arglwydd; aur, ac arian, a phres,

6. A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr,

7. A chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,

8. Ac olew i'r goleuni, a llysiau i olew yr ennaint, ac i'r arogl‐darth peraidd,

9. A meini onics, a meini i'w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg.

10. A phob doeth ei galon yn eich plith, deuant a gweithiant yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd;

11. Y tabernacl, ei babell‐len a'i do, ei fachau a'i ystyllod, ei farrau, ei golofnau, a'i forteisiau,

12. Yr arch, a'i throsolion, y drugareddfa, a'r wahanlen, yr hon a'i gorchuddia,

13. Y bwrdd, a'i drosolion, a'i holl lestri, a'r bara dangos,

14. A chanhwyllbren y goleuni, a'i offer, a'i lampau, ac olew y goleuni,

15. Ac allor yr arogl‐darth, a'i throsolion, ac olew yr eneiniad, a'r arogl‐darth peraidd, a chaeadlen y drws i fyned i'r tabernacl,

16. Allor y poethoffrwm a'i halch bres, ei throsolion, a'i holl lestri, y noe a'i throed,

17. Llenni'r cynteddfa, ei golofnau, a'i forteisiau, caeadlen porth y cynteddfa,

18. Hoelion y tabernacl, a hoelion y cynteddfa, a'u rhaffau hwynt,

19. A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt.

20. A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi gerbron Moses.

21. A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei ysbryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i'r Arglwydd, tuag at waith pabell y cyfarfod, a thuag at ei holl wasanaeth hi, a thuag at y gwisgoedd sanctaidd.

22. A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a'r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlustlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gŵr a'r a offrymodd offrwm, a offrymodd aur i'r Arglwydd.

23. A phob un a'r y caed gydag ef sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a'u dygasant.

24. Pob un a'r a offrymodd offrwm o arian a phres, a ddygasant offrwm i'r Arglwydd: a phob un a'r y caed gydag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a'i dygasant.

25. A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â'i dwylo; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main.

26. A'r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr.

27. A'r penaethiaid a ddygasant feini onics, a meini i'w gosod ar yr effod, ac ar y ddwyfronneg;

28. A llysiau, ac olew i'r goleuni, ac i olew yr ennaint, ac i'r arogl‐darth peraidd.

29. Holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymu tuag at yr holl waith a orchmynasai'r Arglwydd trwy law Moses ei wneuthur, a ddygasant i'r Arglwydd offrwm ewyllysgar.

30. A dywedodd Moses wrth feibion Israel, Gwelwch, galwodd yr Arglwydd erbyn ei enw, Besaleel, fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda:

31. Ac a'i llanwodd ef ag ysbryd Duw, mewn cyfarwyddyd, mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith;

32. I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,

33. Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith cywraint.

34. Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddysgu eraill; efe, ac Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan.

35. Efe a'u llanwodd hwynt â doethineb calon, i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith, a gwaith edau a nodwydd, mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main, ac i wau, gan wneuthur pob gwaith, a dychmygu cywreinrwydd.