Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cerdda, dos i fyny oddi yma, ti a'r bobl a ddygaist i fyny o wlad yr Aifft, i'r wlad am yr hon y tyngais wrth Abraham, Isaac, a Jacob, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddaf hi.

2. A mi a anfonaf angel o'th flaen di; ac a yrraf allan y Canaanead, yr Amoriad, a'r Hethiad, y Pheresiad, yr Hefiad, a'r Jebusiad:

3. I wlad yn llifeirio o laeth a mêl: oherwydd nid af fi i fyny yn dy blith; oblegid pobl wargaled wyt: rhag i mi dy ddifa ar y ffordd.

4. A phan glywodd y bobl y drwg chwedl hwn, galaru a wnaethant: ac ni wisgodd neb ei harddwisg amdano.

5. Oblegid yr Arglwydd a ddywedasai wrth Moses, Dywed wrth feibion Israel, Pobl wargaled ydych chwi; yn ddisymwth y deuaf i fyny i'th ganol di, ac y'th ddifethaf: am hynny yn awr diosg dy harddwisg oddi amdanat, fel y gwypwyf beth a wnelwyf i ti.

6. A meibion Israel a ddiosgasant eu harddwisg wrth fynydd Horeb.

7. A Moses a gymerodd y babell, ac a'i lledodd o'r tu allan i'r gwersyll, ymhell oddi wrth y gwersyll; ac a'i galwodd, Pabell y cyfarfod; a phob un a geisiai yr Arglwydd, a âi allan i babell y cyfarfod, yr hon ydoedd o'r tu allan i'r gwersyll.

8. A phan aeth Moses i'r babell, yr holl bobl a godasant, ac a safasant bob un ar ddrws ei babell; ac a edrychasant ar ôl Moses, nes ei ddyfod i'r babell.

9. A phan aeth Moses i'r babell, y disgynnodd colofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell: a'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses.

10. A gwelodd yr holl bobl golofn y cwmwl yn sefyll wrth ddrws y babell: a'r holl bobl a gododd, ac a addolasant bob un wrth ddrws ei babell.

11. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefarai gŵr wrth ei gyfaill. Ac efe a ddychwelodd i'r gwersyll: ond y llanc Josua, mab Nun, ei weinidog ef, ni syflodd o'r babell.

12. A Moses a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Gwêl, ti a ddywedi wrthyf, Dwg y bobl yma i fyny; ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyda mi: a thi a ddywedaist, Mi a'th adwaen wrth dy enw, a chefaist hefyd ffafr yn fy ngolwg.

13. Yn awr gan hynny, o chefais ffafr yn dy olwg, hysbysa i mi dy ffordd, atolwg, fel y'th adwaenwyf, ac fel y caffwyf ffafr yn dy olwg: gwêl hefyd mai dy bobl di yw y genedl hon.

14. Yntau a ddywedodd, Fy wyneb a gaiff fyned gyda thi, a rhoddaf orffwystra i ti.

15. Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid â dy wyneb gyda ni, nac arwain ni i fyny oddi yma.

16. Canys pa fodd y gwyddir yma gael ohonof fi ffafr yn dy olwg, mi a'th bobl? onid trwy fyned ohonot ti gyda ni? Felly myfi a'th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear.

17. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwnaf hefyd y peth hyn a leferaist: oblegid ti a gefaist ffafr yn fy ngolwg, a mi a'th adwaen wrth dy enw.

18. Yntau a ddywedodd, Dangos i mi, atolwg, dy ogoniant.

19. Ac efe a ddywedodd, Gwnaf i'm holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb, a chyhoeddaf enw yr Arglwydd o'th flaen di: a mi a drugarhaf wrth yr hwn y cymerwyf drugaredd arno, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.

20. Ac efe a ddywedodd, Ni elli weled fy wyneb: canys ni'm gwêl dyn, a byw.

21. Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Wele fan yn fy ymyl, lle y cei sefyll ar graig.

22. A thra yr elo fy ngogoniant heibio, mi a'th osodaf o fewn agen yn y graig; a mi a'th orchuddiaf â'm llaw, nes i mi fyned heibio.

23. Yna y tynnaf ymaith fy llaw, a'm tu cefn a gei di ei weled: ond ni welir fy wyneb.