Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin, wrth eu teithiau, yn ôl gorchymyn yr Arglwydd; ac a wersyllasant yn Reffidim: ac nid oedd dwfr i'r bobl i yfed.

2. Am hynny y bobl a ymgynenasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi? Paham y temtiwch yr Arglwydd?

3. A'r bobl a sychedodd yno am ddwfr; a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses, ac a ddywedodd, Paham y peraist i ni ddyfod i fyny o'r Aifft, i'n lladd ni, a'n plant, a'n hanifeiliaid, â syched?

4. A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, Beth a wnaf i'r bobl hyn? ar ben ychydig eto hwy a'm llabyddiant i.

5. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda o flaen y bobl, a chymer gyda thi o henuriaid Israel: cymer hefyd dy wialen yn dy law, yr hon y trewaist yr afon â hi, a cherdda.

6. Wele, mi a safaf o'th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan ohoni, fel y gallo'r bobl yfed. A Moses a wnaeth felly yng ngolwg henuriaid Israel.

7. Ac efe a alwodd enw y lle Massa, a Meriba; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio'r Arglwydd, gan ddywedyd, A ydyw yr Arglwydd yn ein plith, ai nid yw?

8. Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd ag Israel yn Reffidim.

9. A dywedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd ag Amalec: yfory mi a safaf ar ben y bryn, â gwialen Duw yn fy llaw.

10. Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd ag Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fyny i ben y bryn.

11. A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf.

12. A dwylo Moses oedd drymion; a hwy a gymerasant faen, ac a'i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynaliasant ei ddwylo ef, un ar y naill du, a'r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylo ef sythion nes machludo yr haul.

13. A Josua a orchfygodd Amalec a'i bobl â min y cleddyf.

14. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua: canys gan ddileu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd.

15. A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH‐Nissi.

16. Canys efe a ddywedodd, Oherwydd tyngu o'r Arglwydd, y bydd i'r Arglwydd ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.