Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna gŵr o dŷ Lefi a aeth, ac a briododd ferch i Lefi.

2. A'r wraig a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab: a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe, hi a'i cuddiodd ef dri mis.

3. A phan na allai hi ei guddio ef yn hwy, hi a gymerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg; ac a osododd y bachgen ynddo, ac a'i rhoddodd ymysg yr hesg ar fin yr afon.

4. A'i chwaer ef a safodd o bell, i gael gwybod beth a wneid iddo ef.

5. A merch Pharo a ddaeth i waered i'r afon i ymolchi; (a'i llancesau oedd yn rhodio gerllaw yr afon;) a hi a ganfu'r cawell yng nghanol yr hesg, ac a anfonodd ei llawforwyn i'w gyrchu ef.

6. Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu'r bachgen; ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, Un o blant yr Hebreaid yw hwn.

7. Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth ferch Pharo, A af fi i alw atat famaeth o'r Hebreësau, fel y mago hi y bachgen i ti?

8. A merch Pharo a ddywedodd wrthi, Dos. A'r llances a aeth ac a alwodd fam y bachgen.

9. A dywedodd merch Pharo wrthi, Dwg ymaith y bachgen hwn, a maga ef i mi, a minnau a roddaf i ti dy gyflog. A'r wraig a gymerodd y bachgen, ac a'i magodd.

10. Pan aeth y bachgen yn fawr, hi a'i dug ef i ferch Pharo; ac efe a fu iddi yn fab: a hi a alwodd ei enw ef Moses; Oherwydd (eb hi) o'r dwfr y tynnais ef.

11. A bu yn y dyddiau hynny, pan aeth Moses yn fawr, fyned ohono allan at ei frodyr, ac edrych ar eu beichiau hwynt, a gweled Eifftwr yn taro Hebrëwr, un o'i frodyr.

12. Ac efe a edrychodd yma ac acw; a phan welodd nad oedd yno neb, efe a laddodd yr Eifftiad, ac a'i cuddiodd yn y tywod.

13. Ac efe a aeth allan yr ail ddydd; ac wele ddau Hebrëwr yn ymryson: ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd ar y cam, Paham y trewi dy gyfaill?

14. A dywedodd yntau, Pwy a'th osododd di yn bennaeth ac yn frawdwr arnom ni? ai meddwl yr wyt ti fy lladd i, megis y lleddaist yr Eifftiad? A Moses a ofnodd, ac a ddywedodd, Diau y gwyddir y peth hyn.

15. Pan glybu Pharo y peth hyn, efe a geisiodd ladd Moses: ond Moses a ffodd rhag Pharo, ac a arhosodd yn nhir Midian; ac a eisteddodd wrth bydew.

16. Ac i offeiriad Midian yr ydoedd saith o ferched: a'r rhai hynny a ddaethant ac a dynasant ddwfr, ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhau defaid eu tad.

17. Ond y bugeiliaid a ddaethant ac a'u gyrasant ymaith: yna y cododd Moses, ac a'u cynorthwyodd hwynt, ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt.

18. Yna y daethant at Reuel eu tad: ac efe a ddywedodd, Paham y daethoch heddiw cyn gynted?

19. A hwy a ddywedasant, Eifftwr a'n hachubodd ni o law y bugeiliaid; a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd i ni, ac a ddyfrhaodd y praidd.

20. Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched, Pa le y mae efe? paham y gollyngasoch ymaith y gŵr? Gelwch arno, a bwytaed fara.

21. A bu Moses fodlon i drigo gyda'r gŵr: ac yntau a roddodd Seffora ei ferch i Moses.

22. A hi a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Gersom: Oherwydd dieithr (eb efe) a fûm i mewn gwlad ddieithr.

23. Ac yn ôl dyddiau lawer, bu farw brenin yr Aifft; a phlant Israel a ucheneidiasant oblegid y caethiwed, ac a waeddasant; a'u gwaedd hwynt a ddyrchafodd at Dduw, oblegid y caethiwed.

24. A Duw a glybu eu huchenaid hwynt; a Duw a gofiodd ei gyfamod ag Abraham, ag Isaac, ac â Jacob.

25. A Duw a edrychodd ar blant Israel; Duw hefyd a gydnabu â hwynt.