Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Moses a atebodd, ac a ddywedodd, Eto, wele, ni chredant i mi, ac ni wrandawant ar fy llais; ond dywedant, Nid ymddangosodd yr Arglwydd i ti.

2. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Beth sydd yn dy law? Dywedodd yntau, Gwialen.

3. Ac efe a ddywedodd, Tafl hi ar y ddaear. Ac efe a'i taflodd hi ar y ddaear; a hi a aeth yn sarff: a Moses a giliodd rhagddi.

4. Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law, ac ymafael yn ei llosgwrn hi. (Ac efe a estynnodd ei law, ac a ymaflodd ynddi; a hi a aeth yn wialen yn ei law ef:)

5. Fel y credant ymddangos i ti o Arglwydd Dduw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.

6. A dywedodd yr Arglwydd wrtho drachefn, Dod yn awr dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes: a phan dynnodd efe hi allan, wele ei law ef yn wahanglwyfol fel yr eira.

7. Ac efe a ddywedodd, Dod eilwaith dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd eilwaith ei law yn ei fynwes, ac a'i tynnodd hi allan o'i fynwes; ac wele, hi a droesai fel ei gnawd arall ef.

8. A bydd, oni chredant i ti, ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf, eto y credant i lais yr ail arwydd.

9. A bydd, oni chredant hefyd i'r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, ti a gymeri o ddwfr yr afon ac a'i tywellti ar y sychdir; a bydd y dyfroedd a gymerech o'r afon yn waed ar y tir sych.

10. A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, O fy Arglwydd, ni bûm ŵr ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf.

11. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr Arglwydd?

12. Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyda'th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych.

13. Dywedodd yntau, O fy Arglwydd, danfon, atolwg, gyda'r hwn a ddanfonych.

14. Ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i'th gyfarfod; a phan y'th welo, efe a lawenycha yn ei galon.

15. Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyda'th enau di, a chyda'i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch.

16. A llefared yntau trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti, a thithau a fyddi yn lle Duw iddo yntau.

17. Cymer hefyd y wialen hon yn dy law, yr hon y gwnei wyrthiau â hi.

18. A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gad i mi fyned, atolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aifft, a gweled a ydynt eto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch.

19. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses ym Midian, Dos, dychwel i'r Aifft; oherwydd bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes.

20. A Moses a gymerth ei wraig, a'i feibion, ac a'u gosododd hwynt ar asyn, ac a ddychwelodd i wlad yr Aifft: cymerodd Moses hefyd wialen Duw yn ei law.

21. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i'r Aifft, gwêl i ti wneuthur gerbron Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl.

22. A dywed wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Fy mab i, sef fy nghyntaf‐anedig, yw Israel.

23. A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y'm gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf‐anedig.

24. A bu, ar y ffordd yn y llety, gyfarfod o'r Arglwydd ag ef, a cheisio ei ladd ef.

25. Ond Seffora a gymerth gyllell lem, ac a dorrodd ddienwaediad ei mab, ac a'i bwriodd i gyffwrdd â'i draed ef; ac a ddywedodd, Diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi.

26. A'r Arglwydd a beidiodd ag ef: yna y dywedodd hi, Priod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.

27. A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Dos i gyfarfod â Moses i'r anialwch. Ac efe a aeth, ac a gyfarfu ag ef ym mynydd Duw, ac a'i cusanodd ef.

28. A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau yr Arglwydd, yr hwn a'i hanfonasai ef, a'r arwyddion a orchmynasai efe iddo.

29. A Moses ac Aaron a aethant, ac a gynullasant holl henuriaid meibion Israel.

30. Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses, ac a wnaeth yr arwyddion yng ngolwg y bobl.

31. A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o'r Arglwydd â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrymasant, ac a addolasant.