Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, y cyfodi y tabernacl, pabell y cyfarfod.

3. A gosod yno arch y dystiolaeth; a gorchuddia'r arch â'r wahanlen.

4. Dwg i mewn hefyd y bwrdd, a threfna ef yn drefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyllbren, a goleua ei lampau ef.

5. Gosod hefyd allor aur yr arogl‐darth gerbron arch y dystiolaeth; a gosod gaeadlen drws y tabernacl.

6. Dod hefyd allor y poethoffwrm o flaen drws tabernacl pabell y cyfarfod.

7. Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a dod ynddi ddwfr.

8. A gosod hefyd y cynteddfa oddi amgylch; a dod gaeadlen ar borth y cynteddfa.

9. A chymer olew yr eneiniad, ac eneinia'r tabernacl, a'r hyn oll sydd ynddo, a chysegra ef a'i holl lestri; a sanctaidd fydd.

10. Eneinia hefyd allor y poethoffrwm, a'i holl lestri; a'r allor a gysegri: a hi a fydd yn allor sancteiddiolaf.

11. Eneinia y noe a'i throed, a sancteiddia hi.

12. A dwg Aaron a'i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.

13. A gwisg am Aaron y gwisgoedd sanctaidd; ac eneinia ef, a sancteiddia ef, i offeiriadu i mi.

14. Dwg hefyd ei feibion ef, a gwisg hwynt â pheisiau.

15. Ac eneinia hwynt, megis yr eneiniaist eu tad hwynt, i offeiriadu i mi: felly bydd eu heneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragwyddol, trwy eu cenedlaethau.

16. Felly Moses a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe.

17. Felly yn y mis cyntaf o'r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o'r mis, y codwyd y tabernacl.

18. A Moses a gododd y tabernacl, ac a sicrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fyny ei ystyllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau;

19. Ac a ledodd y babell‐len ar y tabernacl, ac a osododd do'r babell‐len arni oddi arnodd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

20. Cymerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugareddfa i fyny ar yr arch.

21. Ac efe a ddug yr arch i'r tabernacl, ac a osododd y wahanlen orchudd, i orchuddio arch y dystiolaeth; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

22. Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod, ar ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, o'r tu allan i'r wahanlen.

23. Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

24. Ac efe a osododd y canhwyllbren o fewn pabell y cyfarfod, ar gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du'r deau.

25. Ac efe a oleuodd y lampau gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

26. Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahanlen.

27. Ac a arogldarthodd arni arogl‐darth peraidd; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

28. Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl.

29. Ac efe a osododd allor y poethoffrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrymodd arni boethoffrwm a bwyd‐offrwm; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30. Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi.

31. A Moses, ac Aaron, a'i feibion, a olchasant yno eu dwylo a'u traed.

32. Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesaent at yr allor, yr ymolchent; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

33. Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a'r allor, ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.

34. Yna cwmwl a orchuddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tabernacl.

35. Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod; am fod y cwmwl yn aros arni, a gogoniant yr Arglwydd yn llenwi'r tabernacl.

36. A phan gyfodai'r cwmwl oddi ar y tabernacl, y cychwynnai meibion Israel i'w holl deithiau.

37. Ac oni chyfodai'r cwmwl, yna ni chychwynnent hwy hyd y dydd y cyfodai.

38. Canys cwmwl yr Arglwydd ydoedd ar y tabernacl y dydd, a thân ydoedd arno y nos, yng ngolwg holl dŷ Israel, yn eu holl deithiau hwynt.