Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn y trydydd mis, wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft, y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai.

2. Canys hwy a aethant o Reffidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai; gwersyllasant hefyd yn yr anialwch: ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd.

3. A Moses a aeth i fyny at Dduw: a'r Arglwydd a alwodd arno ef o'r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel;

4. Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i'r Eifftiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y'ch dygais ataf fi fy hun.

5. Yn awr, gan hynny, os gan wrando y gwrandewch ar fy llais, a chadw fy nghyfamod, chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys eiddof fi yr holl ddaear.

6. A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma'r geiriau a leferi di wrth feibion Israel.

7. A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchmynasai yr Arglwydd iddo.

8. A'r holl bobl a gydatebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr Arglwydd.

9. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf atat mewn cwmwl tew, fel y clywo'r bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i'r Arglwydd.

10. Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddiw ac yfory; a golchant eu dillad,

11. A byddant barod erbyn y trydydd dydd: oherwydd y trydydd dydd y disgyn yr Arglwydd yng ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai.

12. A gosod derfyn i'r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fyny i'r mynydd, neu gyffwrdd â'i gwr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â'r mynydd a leddir yn farw.

13. Na chyffyrdded llaw ag ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano'r utgorn yn hirllaes, deuant i'r mynydd.

14. A Moses a ddisgynnodd o'r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad.

15. Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; nac ewch yn agos at eich gwragedd.

16. A'r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmwl tew ar y mynydd, a llais yr utgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll.

17. A Moses a ddug y bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod â Duw; a hwy a safasant yng ngodre'r mynydd.

18. A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, oherwydd disgyn o'r Arglwydd arno mewn tân: a'i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a'r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr.

19. Pan ydoedd llais yr utgorn yn hir, ac yn cryfhau fwyfwy, Moses a lefarodd; a Duw a atebodd mewn llais.

20. A'r Arglwydd a ddisgynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr Arglwydd Moses i ben y mynydd; a Moses a aeth i fyny.

21. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i waered, gorchymyn i'r bobl; rhag iddynt ruthro at yr Arglwydd i hylltremu, a chwympo llawer ohonynt.

22. Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nesânt at yr Arglwydd; rhag i'r Arglwydd ruthro arnynt.

23. A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Ni ddichon y bobl ddyfod i fyny i fynydd Sinai: oblegid ti a dystiolaethaist wrthym, gan ddywedyd, Gosod derfyn ynghylch y mynydd, a sancteiddia ef.

24. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fyny, ac Aaron gyda thi: ond na ruthred yr offeiriaid a'r bobl, i ddyfod i fyny at yr Arglwydd; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy.

25. Yna yr aeth Moses i waered at y bobl, ac a ddywedodd wrthynt.