Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Dywed wrth feibion Israel, am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a'r môr, o flaen Baal‐seffon: ar ei chyfer y gwersyllwch wrth y môr.

3. Canys dywed Pharo am feibion Israel, Rhwystrwyd hwynt yn y tir; caeodd yr anialwch arnynt.

4. A mi a galedaf galon Pharo, fel yr erlidio ar eu hôl hwynt: felly y'm gogoneddir ar Pharo, a'i holl fyddin; a'r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd. Ac felly y gwnaethant.

5. A mynegwyd i frenin yr Aifft, fod y bobl yn ffoi: yna y trodd calon Pharo a'i weision yn erbyn y bobl; a dywedasant, Beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o'n gwasanaethu?

6. Ac efe a daclodd ei gerbyd, ac a gymerodd ei bobl gydag ef.

7. A chymerodd chwe chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yr Aifft, a chapteiniaid ar bob un ohonynt.

8. A'r Arglwydd a galedasai galon Pharo brenin yr Aifft, ac efe a ymlidiodd ar ôl meibion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel.

9. A'r Eifftiaid a ymlidiasant ar eu hôl hwynt, sef holl feirch a cherbydau Pharo, a'i wŷr meirch, a'i fyddin, ac a'u goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr, gerllaw Pihahiroth, o flaen Baal‐seffon.

10. A phan nesaodd Pharo, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Eifftiaid yn dyfod ar eu hôl; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd.

11. A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o'r Aifft?

12. Onid dyma y peth a lefarasom wrthyt yn yr Aifft, gan ddywedyd, Paid â ni, fel y gwasanaethom yr Eifftiaid? canys gwell fuasai i ni wasanaethu'r Eifftiaid, na marw yn yr anialwch.

13. A Moses a ddywedodd wrth y bobl, Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr Arglwydd, yr hwn a wna efe i chwi heddiw; oblegid yr Eifftiaid y rhai a welsoch chwi heddiw, ni chewch eu gweled byth ond hynny.

14. Yr Arglwydd a ymladd drosoch; am hynny tewch chwi â sôn.

15. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Paham y gwaeddi arnaf? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt.

16. A chyfod dithau dy wialen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych.

17. Wele, fi, ie myfi a galedaf galon yr Eifftiaid, fel y delont ar eu hôl hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharo, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar ei farchogion.

18. A'r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw'r Arglwydd, pan y'm gogoneddir ar Pharo, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion.

19. Ac angel Duw, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symudodd, ac a aeth o'u hôl hwynt; a'r golofn niwl a aeth ymaith o'u tu blaen hwynt, ac a safodd o'u hôl hwynt.

20. Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i'r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos.

21. A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a'r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ôl, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.

22. A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a'r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o'r tu deau, ac o'r tu aswy.

23. A'r Eifftiaid a erlidiasant, ac a ddaethant ar eu hôl hwynt; sef holl feirch Pharo, a'i gerbydau, a'r farchogion, i ganol y môr.

24. Ac ar yr wyliadwriaeth fore yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Eifftiaid trwy'r golofn dân a'r cwmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Eifftiaid.

25. Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Eifftiaid, Ffown oddi wrth Israel; oblegid yr Arglwydd sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Eifftiaid.

26. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law ar y môr; fel y dychwelo'r dyfroedd ar yr Eifftiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion.

27. A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a dychwelodd y môr cyn y bore i'w nerth; a'r Eifftiaid a ffoesant yn ei erbyn ef: a'r Arglwydd a ddymchwelodd yr Eifftiaid yng nghanol y môr.

28. A'r dyfroedd a ddychwelasant, ac a orchuddiasant gerbydau, a marchogion, a holl fyddin Pharo, y rhai a ddaethant ar eu hôl hwynt i'r môr: ni adawyd ohonynt gymaint ag un.

29. Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych yng nghanol y môr: a'r dyfroedd oedd yn fur iddynt, ar y llaw ddeau, ac ar y llaw aswy.

30. Felly yr Arglwydd a achubodd Israel y dydd hwnnw o law yr Eifftiaid: a gwelodd Israel yr Eifftiaid yn feirw ar fin y môr.

31. A gwelodd Israel y grymuster mawr a wnaeth yr Arglwydd yn erbyn yr Eifftiaid: a'r bobl a ofnasant yr Arglwydd, ac a gredasant i'r Arglwydd, ac i'w was ef Moses.