Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Un pla eto a ddygaf ar Pharo, ac ar yr Aifft; wedi hynny efe a'ch gollwng chwi oddi yma: pan y'ch gollyngo, gan wthio efe a'ch gwthia chwi oddi yma yn gwbl.

2. Dywed yn awr lle y clywo y bobl; a benthycied pob gŵr gan ei gymydog, a phob gwraig gan ei chymdoges, ddodrefn arian, a dodrefn aur.

3. A'r Arglwydd a roddodd i'r bobl ffafr yng ngolwg yr Eifftiaid: ac yr oedd Moses yn ŵr mawr iawn yng ngwlad yr Aifft, yng ngolwg gweision Pharo, ac yng ngolwg y bobl.

4. Moses hefyd a ddywedodd, Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd; Ynghylch hanner nos yr af fi allan i ganol yr Aifft.

5. A phob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft a fydd marw, o gyntaf‐anedig Pharo, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrngadair, hyd gyntaf‐anedig y wasanaethferch sydd ar ôl y felin; a phob cyntaf‐anedig o anifail.

6. A bydd gweiddi mawr trwy holl wlad yr Aifft, yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb.

7. Ond yn erbyn neb o blant Israel ni symud ci ei dafod, ar ddyn nac anifail; fel y gwypoch fod yr Arglwydd yn gwneuthur rhagor rhwng yr Eifftiaid ac Israel.

8. A'th holl weision hyn a ddeuant i waered ataf fi, ac a ymgrymant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a'r holl bobl sydd ar dy ôl; ac wedi hynny yr af fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharo mewn dicllonedd llidiog.

9. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Ni wrendy Pharo arnoch; fel yr amlhaer fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft.

10. A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn gerbron Pharo: a'r Arglwydd a galedodd galon Pharo, fel na ollyngai efe feibion Israel allan o'i wlad.