Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y canodd Moses a meibion Israel y gân hon i'r Arglwydd, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Canaf i'r Arglwydd; canys gwnaeth yn rhagorol iawn: taflodd y march a'i farchog i'r môr.

2. Fy nerth a'm cân yw yr Arglwydd; ac y mae efe yn iachawdwriaeth i mi: efe yw fy Nuw, efe a ogoneddaf fi; Duw fy nhad, a mi a'i dyrchafaf ef.

3. Yr Arglwydd sydd ryfelwr: yr Arglwydd yw ei enw.

4. Efe a daflodd gerbydau Pharo a'i fyddin yn y môr: ei gapteiniaid dewisol a foddwyd yn y môr coch.

5. Y dyfnderau a'u toesant hwy; disgynasant i'r gwaelod fel carreg.

6. Dy ddeheulaw, Arglwydd, sydd ardderchog o nerth; a'th ddeheulaw, Arglwydd, a ddrylliodd y gelyn.

7. Ym mawredd dy ardderchowgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i'th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist allan, ac efe a'u hysodd hwynt fel sofl.

8. Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd ynghyd: y ffrydiau a safasant fel pentwr; y dyfnderau a geulasant yng nghanol y môr.

9. Y gelyn a ddywedodd, Mi a erlidiaf, mi a oddiweddaf, mi a rannaf yr ysbail: caf fy ngwynfyd arnynt; tynnaf fy nghleddyf, fy llaw a'u difetha hwynt.

10. Ti a chwythaist â'th wynt; y môr a'u todd hwynt: soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion.

11. Pwy sydd debyg i ti, O Arglwydd, ymhlith y duwiau? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd, yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau?

12. Estynnaist dy ddeheulaw; llyncodd y ddaear hwynt.

13. Arweiniaist yn dy drugaredd y bobl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist hwynt i anheddle dy sancteiddrwydd.

14. Y bobloedd a glywant, ac a ofnant: dolur a ddeil breswylwyr Palesteina.

15. Yna y synna ar ddugiaid Edom: cedyrn hyrddod Moab, dychryn a'u deil hwynt: holl breswylwyr Canaan a doddant ymaith.

16. Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o'th bobl di, Arglwydd, nes myned o'r bobl a enillaist ti trwodd.

17. Ti a'u dygi hwynt i mewn, ac a'u plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost, O Arglwydd, yn anheddle i ti; y cysegr, Arglwydd, a gadarnhaodd dy ddwylo.

18. Yr Arglwydd a deyrnasa byth ac yn dragywydd.

19. Oherwydd meirch Pharo, a'i gerbydau, a'i farchogion, a aethant i'r môr; a'r Arglwydd a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt: ond meibion Israel a aethant ar dir sych yng nghanol y môr.

20. A Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, a gymerodd dympan yn ei llaw, a'r holl wragedd a aethant allan ar ei hôl hi, â thympanau ac â dawnsiau.

21. A dywedodd Miriam wrthynt, Cenwch i'r Arglwydd; canys gwnaeth yn ardderchog; bwriodd y march a'r marchog i'r môr.

22. Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch; ac aethant allan i anialwch Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.

23. A phan ddaethant i Mara, ni allent yfed dyfroedd Mara, am eu bod yn chwerwon: oherwydd hynny y gelwir ei henw hi Mara.

24. A'r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, Beth a yfwn ni?

25. Ac efe a waeddodd ar yr Arglwydd: a'r Arglwydd a ddangosodd iddo ef bren; ac efe a'i bwriodd i'r dyfroedd, a'r dyfroedd a bereiddiasant: yno y gwnaeth efe ddeddf a chyfraith, ac yno y profodd efe hwynt,

26. Ac a ddywedodd, Os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef, a rhoddi clust i'w orchmynion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef; ni roddaf arnat un o'r clefydau a roddais ar yr Eifftiaid; oherwydd myfi yw yr Arglwydd dy iachawdwr di.

27. A daethant i Elim; ac yno yr oedd deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thrigain: a hwy a wersyllasant yno wrth y dyfroedd.