Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Adyma'r fendith â'r hon y bendithiodd Moses gŵr Duw feibion Israel, cyn ei farwolaeth.

2. Ac efe a ddywedodd, Yr Arglwydd a ddaeth allan o Sinai, ac a gododd o Seir iddynt; ymlewyrchodd o fynydd Paran, ac efe a ddaeth gyda myrddiwn o saint, a thanllyd gyfraith o'i ddeheulaw iddynt.

3. Caru y mae efe y bobl: ei holl saint ydynt yn dy law: a hwy a ymlynasant wrth dy draed; pob un a dderbyn o'th eiriau.

4. Moses a orchmynnodd gyfraith i ni, yn etifeddiaeth i gynulleidfa Jacob.

5. Ac efe oedd frenin yn Israel, pan ymgasglodd pennau y bobl ynghyd â llwythau Israel.

6. Bydded fyw Reuben, ac na fydded farw, ac na bydded ei ddynion ychydig o rifedi.

7. Bydded hyn hefyd i Jwda. Ac efe a ddywedodd, Clyw, O Arglwydd, lais Jwda, ac at ei bobl dwg ef: digon fyddo iddo ei ddwylo ei hun, a bydd gymorth rhag ei elynion.

8. Ac am Lefi y dywedodd, Bydded dy Thummim a'th Urim i'th ŵr sanctaidd yr hwn a brofaist ym Massa, ac a gynhennaist ag ef wrth ddyfroedd Meriba;

9. Yr hwn a ddywedodd am ei dad ac am ei fam, Ni welais ef; a'i frodyr nis adnabu, ac nid adnabu ei blant ei hun: canys cadwasant dy eiriau, a chynaliasant dy gyfamod.

10. Dysgant dy farnedigaethau i Jacob, a'th gyfraith i Israel: gosodant arogldarth ger dy fron, a llosg‐aberth ar dy allor.

11. Bendithia, O Arglwydd, ei olud ef, a bydd fodlon i waith ei ddwylo ef: archolla lwynau y rhai a godant i'w erbyn, a'i gaseion, fel na chodont.

12. Am Benjamin y dywedodd efe, Anwylyd yr Arglwydd a drig mewn diogelwch gydag ef; yr hwn fydd yn cysgodi drosto ar hyd y dydd, ac yn aros rhwng ei ysgwyddau ef.

13. Ac am Joseff y dywedodd efe, Ei dir ef fydd wedi ei fendigo gan yr Arglwydd, â hyfrydwch y nefoedd, â gwlith, ac â dyfnder yn gorwedd isod;

14. Hefyd â hyfrydwch cynnyrch yr haul, ac â hyfrydwch aeddfetffrwyth y lleuadau,

15. Ac â hyfrydwch pen mynyddoedd y dwyrain, ac â hyfrydwch bryniau tragwyddoldeb,

16. Ac â hyfrydwch y ddaear, ac â'i chyflawnder, ac ag ewyllys da preswylydd y berth; delo bendith ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.

17. Ei brydferthwch sydd debyg i gyntaf‐anedig ei ych, a'i gyrn ef sydd gyrn unicorn: â hwynt y cornia efe y bobl ynghyd hyd eithafoedd y ddaear: a dyma fyrddiwn Effraim, ie, dyma filoedd Manasse.

18. Ac am Sabulon y dywedodd efe, Ymlawenycha, Sabulon, yn dy fynediad allan; a thi, Issachar, yn dy bebyll.

19. Galwant bobloedd i'r mynydd; yna yr aberthant ebyrth cyfiawnder: canys cyfoeth y moroedd a sugnant, a chuddiedig drysorau y tywod.

20. Ac am Gad y dywedodd efe, Bendigedig yw ehangydd Gad: megis llew y mae efe yn aros, fel y rhwygo efe yr ysgwyddog a'r pen.

21. Edrychodd amdano ei hun yn y dechreuad: canys yno, yn rhan y cyfreithwr, y gosodwyd ef: efe a ddaeth gyda phenaethiaid y bobl; gwnaeth efe gyfiawnder yr Arglwydd, a'i farnedigaethau gydag Israel.

22. Am Dan hefyd y dywedodd, Dan yn genau llew a neidia o Basan.

23. Ac am Nafftali y dywedodd, O Nafftali, llawn o hawddgarwch, a chyflawn o fendith yr Arglwydd: meddianna di y gorllewin a'r deau.

24. Ac am Aser y dywedodd, Bendithier Aser â phlant: bydded gymeradwy gan ei frodyr: ac efe a wlych ei droed mewn olew.

25. Haearn a phres fydd dan dy esgid di; a megis dy ddyddiau, y bydd dy nerth.

26. Nid oes megis Duw Israel, yr hwn sydd yn marchogaeth y nefoedd yn gymorth i ti, a'r wybrennau yn ei fawredd.

27. Dy noddfa yw Duw tragwyddol, ac oddi tanodd y mae y breichiau tragwyddol efe a wthia dy elyn o'th flaen, ac a ddywed, Difetha ef.

28. Israel hefyd a drig ei hun yn ddiogel; ffynnon Jacob a fydd mewn tir ŷd a gwin; ei nefoedd hefyd a ddifera wlith.

29. Gwynfydedig wyt, O Israel; pwy sydd megis ti, O bobl gadwedig gan yr Arglwydd, tarian dy gynhorthwy, yr hwn hefyd yw cleddyf dy ardderchowgrwydd! a'th elynion a ymostyngant i ti, a thi a sethri ar eu huchel leoedd hwynt.