Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Aphan ddelych i'r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth, a'i feddiannu, a phreswylio ynddo;

2. Yna cymer o bob blaenffrwyth y ddaear, yr hwn a ddygi o'th dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, a gosod mewn cawell, a dos i'r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o'i enw ef ynddo:

3. A dos at yr offeiriad a fydd yn y dyddiau hynny, a dywed wrtho, Yr ydwyf fi yn cyfaddef heddiw i'r Arglwydd dy Dduw, fy nyfod i'r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth ein tadau ar ei roddi i ni.

4. A chymered yr offeiriad y cawell o'th law di, a gosoded ef o flaen allor yr Arglwydd dy Dduw:

5. A llefara dithau, a dywed gerbron yr Arglwydd dy Dduw, Syriad ar ddarfod amdano oedd fy nhad; ac efe a ddisgynnodd i'r Aifft, ac a ymdeithiodd yno ag ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac aml.

6. A'r Eifftiaid a'n drygodd ni, a chystuddiasant ni, a rhoddasant arnom gaethiwed caled.

7. A phan waeddasom ar Arglwydd Dduw ein tadau, clybu yr Arglwydd ein llais ni, a gwelodd ein cystudd, a'n llafur, a'n gorthrymder.

8. A'r Arglwydd a'n dug ni allan o'r Aifft â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac ag ofn mawr, ac ag arwyddion, ac â rhyfeddodau.

9. Ac efe a'n dug ni i'r lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.

10. Ac yn awr, wele, mi a ddygais flaenffrwyth y tir a roddaist i mi, O Arglwydd: a gosod ef gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ac addola gerbron yr Arglwydd dy Dduw.

11. Ymlawenycha hefyd ym mhob daioni a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, ac i'th deulu, tydi, a'r Lefiad, a'r dieithr a fyddo yn dy fysg.

12. Pan ddarffo i ti ddegymu holl ddegwm dy gnwd, yn y drydedd flwyddyn sef blwyddyn y degwm; yna y rhoddi i'r Lefiad, i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw; fel y bwytaont yn dy byrth di, ac y digoner hwynt.

13. A dywed gerbron yr Arglwydd dy Dduw, Dygais y peth cysegredig allan o'm tŷ, ac a'i rhoddais ef i'r Lefiad, ac i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw, yn ôl dy holl orchmynion a orchmynnaist i mi: ni throseddais ddim o'th orchmynion ac nis anghofiais.

14. Ni fwyteais ohono yn fy ngalar, ac ni ddygais ymaith ohono i aflendid, ac ni roddais ohono dros y marw: gwrandewais ar lais yr Arglwydd fy Nuw; gwneuthum yn ôl yr hyn oll a orchmynnaist i mi.

15. Edrych o drigle dy sancteiddrwydd, sef o'r nefoedd, a bendithia dy bobl Israel, a'r tir a roddaist i ni, megis y tyngaist wrth ein tadau; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.

16. Y dydd hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn gorchymyn i ti wneuthur y deddfau hyn a'r barnedigaethau: cadw dithau a gwna hwynt â'th holl galon, ac â'th holl enaid.

17. Cymeraist yr Arglwydd heddiw i fod yn Dduw i ti, ac i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei ddeddfau, a'i orchmynion, a'i farnedigaethau, ac i wrando ar ei lais ef.

18. Cymerodd yr Arglwydd dithau heddiw i fod yn bobl briodol iddo ef, megis y llefarodd wrthyt, ac i gadw ohonot ei holl orchmynion:

19. Ac i'th wneuthur yn uchel goruwch yr holl genhedloedd a wnaeth efe, mewn clod, ac mewn enw, ac mewn gogoniant; ac i fod ohonot yn bobl sanctaidd i'r Arglwydd dy Dduw, megis y llefarodd efe.