Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Na ddeued neb wedi ysigo ei eirin, na disbaidd, i gynulleidfa yr Arglwydd.

2. Na ddeued basterdyn i gynulleidfa yr Arglwydd; y ddegfed genhedlaeth iddo hefyd ni chaiff ddyfod i gynulleidfa yr Arglwydd.

3. Na ddeled Ammoniad na Moabiad i gynulleidfa yr Arglwydd; y ddegfed genhedlaeth hefyd ohonynt na ddeued i gynulleidfa yr Arglwydd byth:

4. Oblegid ni chyfarfuant â chwi â bara ac â dwfr yn y ffordd, wrth eich dyfod o'r Aifft; ac o achos cyflogi ohonynt i'th erbyn Balaam mab Beor o Pethor ym Mesopotamia, i'th felltithio di.

5. Eto yr Arglwydd dy Dduw ni fynnodd wrando ar Balaam: ond trodd yr Arglwydd dy Dduw y felltith yn fendith i ti; canys hoffodd yr Arglwydd dy Dduw dydi.

6. Na chais eu heddwch hwynt, na'u daioni hwynt, dy holl ddyddiau byth.

7. Na ffieiddia Edomiad; canys dy frawd yw: na ffieiddia Eifftiad; oherwydd dieithr fuost yn ei wlad ef.

8. Deued ohonynt i gynulleidfa yr Arglwydd y drydedd genhedlaeth o'r meibion a genhedlir iddynt.

9. Pan êl y llu allan yn erbyn dy elynion yna ymgadw rhag pob peth drwg.

10. O bydd un ohonot heb fod yn lân, oherwydd damwain nos; eled allan o'r gwersyll; na ddeued o fewn y gwersyll.

11. Ac ym min yr hwyr ymolched mewn dwfr: yna wedi machludo'r haul, deued i fewn y gwersyll.

12. A bydded lle i ti o'r tu allan i'r gwersyll; ac yno yr ei di allan.

13. A bydded gennyt rawffon ymysg dy arfau; a bydded pan eisteddych allan, gloddio ohonot â hi, a thro a chuddia yr hyn a ddaeth oddi wrthyt.

14. Oherwydd bod yr Arglwydd dy Dduw yn rhodio ymhlith dy wersyllau, i'th waredu, ac i roddi dy elynion o'th flaen di; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd; fel na welo ynot ti ddim brynti, a throi oddi wrthyt.

15. Na ddyro at ei feistr was a ddihangodd atat oddi wrth ei feistr.

16. Gyda thi y trig yn dy fysg, yn y fan a ddewiso, yn un o'th byrth di, lle byddo da ganddo; ac na chystuddia ef.

17. Na fydded putain o ferched Israel, ac na fydded puteiniwr o feibion Israel.

18. Na ddwg wobr putain, na gwerth ci, i dŷ yr Arglwydd dy Dduw, mewn un adduned: canys y maent ill dau yn ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw.

19. Na chymer ocraeth gan dy frawd; ocraeth arian, ocraeth bwyd, ocraeth dim y cymerir ocraeth amdano.

20. Gan estron y cymeri ocraeth; ond na chymer ocraeth gan dy frawd: fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di ym mhob peth y rhoddych dy law arno, yn y tir yr ydwyt yn myned iddo i'w feddiannu.

21. Pan addunedych adduned i'r Arglwydd dy Dduw, nac oeda ei thalu: canys yr Arglwydd dy Dduw gan ofyn a'i gofyn gennyt; a byddai yn bechod ynot.

22. Ond os peidi ag addunedu, ni bydd pechod ynot.

23. Cadw a gwna yr hyn a ddaeth allan o'th wefusau; megis yr addunedaist i'r Arglwydd dy Dduw offrwm gwirfodd, yr hwn a draethaist â'th enau.

24. Pan ddelych i winllan dy gymydog, yna bwyta o rawnwin dy wala, wrth dy feddwl; ond na ddod yn dy lestr yr un.

25. Pan ddelych i ŷd dy gymydog, yna y cei dynnu y tywysennau â'th law; ond ni chei osod cryman yn ŷd dy gymydog.