Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y troesom, ac yr esgynasom ar hyd ffordd Basan; ac Og brenin Basan a ddaeth allan i'n cyfarfod ni, efe a'i holl bobl, i ryfel, i Edrei.

2. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Nac ofna ef: oblegid yn dy law di y rhoddaf ef, a'i holl bobl, a'i wlad; a thi a wnei iddo fel y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.

3. Felly yr Arglwydd ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw ni Og brenin Basan, a'i holl bobl; ac ni a'i trawsom ef, hyd na adawyd iddo un yng ngweddill:

4. Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, fel nad oedd ddinas nas dygasom oddi arnynt; trigain dinas, holl wlad Argob, brenhiniaeth Og o fewn Basan.

5. Yr holl ddinasoedd hyn oedd gedyrn o furiau uchel, pyrth, a barrau, heblaw dinasoedd heb furiau lawer iawn.

6. A difrodasom hwynt, fel y gwnaethom i Sehon brenin Hesbon, gan ddifrodi o bob dinas y gwŷr, y gwragedd, a'r plant.

7. Ond yr holl anifeiliaid ac ysbail y dinasoedd a ysglyfaethasom i ni ein hunain.

8. A ni a gymerasom yr amser hwnnw o law dau frenin yr Amoriaid y wlad o'r tu yma i'r Iorddonen, o afon Arnon hyd fynydd Hermon;

9. (Y Sidoniaid a alwant Hermon yn Sirion, a'r Amoriaid a'i galwant Senir;)

10. Holl ddinasoedd y gwastad, a holl Gilead, a holl Basan hyd Selcha ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og o fewn Basan.

11. Oblegid Og brenin Basan yn unig a adawsid o weddill y cewri: wele, ei wely ef oedd wely haearn: onid yw hwnnw yn Rabbath meibion Ammon? naw cufydd oedd ei hyd, a phedwar cufydd ei led, wrth gufydd gŵr.

12. A'r wlad hon a berchenogasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead, a'i ddinasoedd ef a roddais i'r Reubeniaid ac i'r Gadiaid.

13. A'r gweddill o Gilead, a holl Basan, sef brenhiniaeth Og, a roddais i hanner llwyth Manasse; sef holl wlad Argob, a holl Basan, yr hon a elwid Gwlad y cewri.

14. Jair mab Manasse a gymerth holl wlad Argob, hyd fro Gesuri, a Maachathi; ac a'u galwodd hwynt ar ei enw ei hun, Basan Hafoth‐Jair, hyd y dydd hwn.

15. Ac i Machir y rhoddais i Gilead.

16. Ac i'r Reubeniaid, ac i'r Gadiaid, y rhoddais o Gilead hyd afon Arnon, hanner yr afon a'r terfyn, a hyd yr afon Jabboc, terfyn meibion Ammon:

17. Hefyd y rhos, a'r Iorddonen, a'r terfyn o Cinnereth, hyd fôr y rhos, sef y môr heli, dan Asdoth‐Pisga, tua'r dwyrain.

18. Gorchmynnais hefyd i chwi yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a roddes i chwi y wlad hon i'w meddiannu: ewch drosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel, pob rhai pybyr ohonoch.

19. Yn unig eich gwragedd, a'ch plant, a'ch anifeiliaid, (gwn fod llawer o anifeiliaid i chwi,) a drigant yn eich dinasoedd a roddais i chwi.

20. Hyd pan wnelo'r Arglwydd i'ch brodyr orffwyso fel chwithau, a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt dros yr Iorddonen: yna dychwelwch bob un i'w etifeddiaeth a roddais i chwi.

21. Gorchmynnais hefyd i Josua yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Dy lygaid di a welsant yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i'r ddau frenin hyn: felly y gwna'r Arglwydd i'r holl deyrnasoedd yr ydwyt ti yn myned drosodd atynt.

22. Nac ofnwch hwynt: oblegid yr Arglwydd eich Duw, efe a ymladd drosoch chwi.

23. Ac erfyniais ar yr Arglwydd yr amser hwnnw, gan ddywedyd,

24. O Arglwydd Dduw, tydi a ddechreuaist ddangos i'th was dy fawredd, a'th law gadarn; oblegid pa Dduw sydd yn y nefoedd, neu ar y ddaear, yr hwn a weithreda yn ôl dy weithredoedd a'th nerthoedd di?

25. Gad i mi fyned drosodd, atolwg, a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen, a'r mynydd da hwnnw, a Libanus.

26. Ond yr Arglwydd a ddigiasai wrthyf o'ch plegid chwi, ac ni wrandawodd arnaf: ond dywedyd a wnaeth yr Arglwydd wrthyf, Digon yw hynny i ti; na chwanega lefaru wrthyf mwy am y peth hyn.

27. Dos i fyny i ben Pisga, a dyrchafa dy lygaid tua'r gorllewin, a'r gogledd, a'r deau a'r dwyrain, ac edrych arni â'th lygaid: oblegid ni chei di fyned dros yr Iorddonen hon.

28. Gorchymyn hefyd i Josua, a nertha a chadarnha ef: oblegid efe a â drosodd o flaen y bobl yma, ac efe a ran iddynt yn etifeddiaeth y wlad yr hon a weli di.

29. Felly aros a wnaethom yn y dyffryn gyferbyn â Beth‐peor.