Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y troesom, ac yr aethom i'r anialwch, ar hyd ffordd y môr coch, fel y dywedasai yr Arglwydd wrthyf, ac a amgylchasom fynydd Seir ddyddiau lawer.

2. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrthyf gan ddywedyd,

3. Digon i chwi amgylchu y mynydd hwn hyd yn hyn; ymchwelwch rhagoch tua'r gogledd.

4. A gorchymyn i'r bobl, gan ddywedyd, Yr ydych i dramwyo trwy derfynau eich brodyr, meibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir: a hwythau a ofnant rhagoch ond ymgedwch yn ddyfal.

5. Nac ymyrrwch arnynt: oherwydd ni roddaf i chwi o'u tir hwynt gymaint â lled troed; canys yn etifeddiaeth i Esau y rhoddais fynydd Seir;

6. Prynwch fwyd ganddynt am arian, fel y bwytaoch: a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian, fel yr yfoch.

7. Canys yr Arglwydd dy Dduw a'th fendithiodd di yn holl waith dy law: gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlynedd hyn y bu yr Arglwydd dy Dduw gyda thi; ni bu arnat eisiau dim.

8. Ac wedi ein myned heibio oddi wrth ein brodyr, meibion Esau, y rhai ydynt yn trigo yn Seir, o ffordd y rhos o Elath, ac o Esion‐Gaber, ni a ddychwelasom, ac a aethom ar hyd ffordd anialwch Moab.

9. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Na orthryma Moab, ac nac ymgynnull i ryfel yn eu herbyn hwynt: oblegid ni roddaf i ti feddiant o'i dir ef; oherwydd i feibion Lot y rhoddais Ar yn etifeddiaeth

10. (Yr Emiaid o'r blaen a gyfaneddasant ynddi; pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid;

11. Yn gewri y cymerwyd hwynt hefyd, fel yr Anaciaid; a'r Moabiaid a'u galwent hwy yn Emiaid.

12. Yr Horiaid hefyd a breswyliasant yn Seir o'r blaen; a meibion Esau a ddaeth ar eu hôl hwynt, ac a'u difethasant o'u blaen, a thrigasant yn eu lle hwynt; fel y gwnaeth Israel i wlad ei etifeddiaeth yntau, yr hon a roddes yr Arglwydd iddynt.)

13. Yna y dywedais, Cyfodwch yn awr, a thramwywch rhagoch dros afon Sared. A ni a aethom dros afon Sared.

14. A'r dyddiau y cerddasom o Cades‐Barnea, hyd pan ddaethom dros afon Sared, oedd onid dwy flynedd deugain; nes darfod holl genhedlaeth y gwŷr o ryfel o ganol y gwersyllau, fel y tyngasai yr Arglwydd wrthynt.

15. Canys llaw yr Arglwydd ydoedd yn eu herbyn hwynt, i'w torri hwynt o ganol y gwersyll, hyd oni ddarfuant.

16. A bu, wedi darfod yr holl ryfelwyr a'u marw o blith y bobloedd,

17. Lefaru o'r Arglwydd wrthyf, gan ddywedyd,

18. Tydi heddiw wyt ar fyned trwy derfynau Moab, sef trwy Ar:

19. A phan ddelych di gyferbyn â meibion Ammon, na orthryma hwynt, ac nac ymyrr arnynt; oblegid ni roddaf feddiant o dir meibion Ammon i ti; canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot.

20. (Yn wlad cewri hefyd y cyfrifwyd hi: cewri a breswyliasant ynddi o'r blaen; a'r Ammoniaid a'u galwent hwy yn Samsummiaid:

21. Pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid, a'r Arglwydd a'u difethodd hwynt o'u blaen hwy; a hwy a ddaethant ar eu hôl hwynt, ac a drigasant yn eu lle hwynt.

22. Fel y gwnaeth i feibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir, pan ddifethodd efe yr Horiaid o'u blaen, fel y daethant ar eu hôl hwynt, ac y trigasant yn eu lle hwynt, hyd y dydd hwn;

23. Felly am yr Afiaid, y rhai oedd yn trigo yn Haserim, hyd Assa, y Cafftoriaid, y rhai a ddaethant allan o Cafftor, a'u difethasant hwy, ac a drigasant yn eu lle hwynt.)

24. Cyfodwch, cychwynnwch, ac ewch dros afon Arnon: wele, rhoddais yn dy law di Sehon brenin Hesbon, yr Amoriad, a'i wlad ef; dechrau ei meddiannu hi, a rhyfela yn ei erbyn ef.

25. Y dydd hwn y dechreuaf roddi dy arswyd a'th ofn di ar y bobloedd dan yr holl nefoedd: y rhai a glywant dy enw di, a ddychrynant, ac a lesgânt rhagot ti.

26. A mi a anfonais genhadau o anialwch Cedemoth, at Sehon brenin Hesbon, â geiriau heddwch, gan ddywedyd,

27. Gad i mi fyned trwy dy wlad di: ar hyd y briffordd y cerddaf; ni chiliaf i'r tu deau nac i'r tu aswy.

28. Gwerth fwyd am arian i mi, fel y bwytawyf; a dyro ddwfr am arian i mi, fel yr yfwyf: ar fy nhraed yn unig y tramwyaf;

29. (Fel y gwnaeth meibion Esau i mi, y rhai sydd yn trigo yn Seir, a'r Moabiaid, y rhai sydd yn trigo yn Ar;) hyd onid elwyf dros yr Iorddonen, i'r wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni.

30. Ond ni fynnai Sehon brenin Hesbon ein gollwng heb ei law: oblegid yr Arglwydd dy Dduw a galedasai ei ysbryd ef, ac a gadarnhasai ei galon ef, er mwyn ei roddi ef yn dy law di; megis heddiw y gwelir.

31. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Wele, dechreuais roddi Sehon a'i wlad o'th flaen di: dechrau feddiannu, fel yr etifeddech ei wlad ef.

32. Yna Sehon a ddaeth allan i'n cyfarfod ni, efe a'i holl bobl, i ryfel yn Jahas.

33. Ond yr Arglwydd ein Duw a'i rhoddes ef o'n blaen; ac ni a'i trawsom ef, a'i feibion, a'i holl bobl:

34. Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, ac a ddifrodasom bob dinas, yn wŷr, yn wragedd, yn blant; ac ni adawsom un yng ngweddill.

35. Ond ysglyfaethasom yr anifeiliaid i ni, ac ysbail y dinasoedd y rhai a enillasom.

36. O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, ac o'r ddinas sydd ar yr afon, a hyd at Gilead, ni bu ddinas a'r a ddihangodd rhagom: yr Arglwydd ein Duw a roddes y cwbl o'n blaen ni.

37. Yn unig ni ddaethost i dir meibion Ammon, sef holl lan afon Jabboc, nac i ddinasoedd y mynydd, nac i'r holl leoedd a waharddasai yr Arglwydd ein Duw i ni.