Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y gorchmynnodd Moses, gyda henuriaid Israel, i'r bobl, gan ddywedyd Cedwch yr holl orchmynion yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw.

2. A bydded, yn y dydd yr elych dros yr Iorddonen i'r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, osod ohonot i ti gerrig mawrion, a chalcha hwynt â chalch.

3. Ac ysgrifenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon, pan elych drosodd, i fyned i'r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, sef tir yn llifeirio o laeth a mêl; megis ag y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthyt.

4. A phan eloch dros yr Iorddonen, gosodwch y cerrig hyn, yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, ym mynydd Ebal, a chalcha hwynt â chalch.

5. Ac adeilada yno allor i'r Arglwydd dy Dduw, sef allor gerrig: na chyfod arnynt arf haearn.

6. A cherrig cyfain yr adeiledi allor yr Arglwydd dy Dduw; ac offryma arni boethoffrymau i'r Arglwydd dy Dduw.

7. Offryma hefyd hedd‐aberthau, a bwyta yno, a llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw.

8. Ac ysgrifenna ar y cerrig holl eiriau y gyfraith hon, yn eglur iawn.

9. A llefarodd Moses a'r offeiriaid y Lefiaid wrth holl Israel, gan ddywedyd, Gwrando a chlyw, O Israel: Y dydd hwn y'th wnaethpwyd yn bobl i'r Arglwydd dy Dduw.

10. Gwrando gan hynny ar lais yr Arglwydd dy Dduw, a gwna ei orchmynion ef a'i ddeddfau, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.

11. A gorchmynnodd Moses i'r bobl y dydd hwnnw, gan ddywedyd.

12. Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garisim, wedi eich myned dros yr Iorddonen: Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Joseff, a Benjamin.

13. A'r rhai hyn a safant i felltithio ar fynydd Ebal: Reuben, Gad, ac Aser, a Sabulon, Dan, a Nafftali.

14. A'r Lefiaid a lefarant, ac a ddywedant wrth bob gŵr o Israel â llef uchel,

15. Melltigedig yw y gŵr a wnêl ddelw gerfiedig neu doddedig, sef ffieidd‐dra gan yr Arglwydd, gwaith dwylo crefftwr, ac a'i gosodo mewn lle dirgel. A'r holl bobl a atebant ac a ddywedant, Amen.

16. Melltigedig yw yr hwn a ddirmygo ei dad neu ei fam. A dyweded yr holl bobl, Amen.

17. Melltigedig yw yr hwn a symudo derfyn ei gymydog. A dyweded yr holl bobl, Amen.

18. Melltigedig yw yr hwn a baro i'r dall gyfeiliorni allan o'r ffordd. A dyweded yr holl bobl, Amen.

19. Melltigedig yw yr hwn a ŵyro farn y dieithr, yr amddifad, a'r weddw. A dyweded yr holl bobl, Amen.

20. Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda gwraig ei dad; oherwydd datguddiodd odre ei dad. A dyweded yr holl bobl, Amen.

21. Melltigedig yw yr hwn a orweddo gydag un anifail. A dyweded yr holl bobl, Amen.

22. Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda'i chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam ef. A dyweded yr holl bobl, Amen.

23. Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda'i chwegr. A dyweded yr holl bobl, Amen.

24. Melltigedig yw yr hwn a drawo ei gymydog yn ddirgel. A dyweded yr holl bobl, Amen.

25. Melltigedig yw yr hwn a gymero wobr, er dieneidio gwaed gwirion. A dyweded yr holl bobl, Amen.

26. Melltigedig yw yr hwn ni pharhao yng ngeiriau y gyfraith hon, gan eu gwneuthur hwynt. A dyweded yr holl bobl, Amen.